Ymgynghoriad

Deintyddiaeth yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich barn ar ddeintyddiaeth yng Nghymru.

Cylch gorchwyl:

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ar y canlynol:

  • Y gwaith o ddiwygio contract deintyddol Llywodraeth Cymru
  • Sut mae ‘arian adfachu’ o’r byrddau iechyd yn cael eu defnyddio;
  • Materion yn ymwneud â hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru;
  • Y ddarpariaeth gwasanaeth orthodonteg;
  • Effeithiolrwydd rhaglenni gwella iechyd y geg lleol a chenedlaethol i blant a phobl ifanc.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 31 Awst 2018.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565