Ymgynghoriad

Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • A yw trefniadau llywodraethu, strwythur a chyllid Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn effeithiol ac yn dryloyw.
  • Pa gamau y dylid eu cymryd i ddatblygu'r agweddau hyn ar y sefydliad? A pha fodelau llywodraethu eraill ac arferion da sydd ar gael??
  • Rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol wrth weithredu polisi trafnidiaeth. Pa gyfrifoldebau ychwanegol y dylai'r corff eu hysgwyddo a sut ddylai'r rhain integreiddio â rôl Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn ddydd Gwener 11 Ionawr 2019.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565