Ymgynghoriad
Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 13 Chwefror 2019 a Dydd Gwener, 15 Mawrth 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- MHP01 - Grŵp Partneriaeth Heddlu De Cymru (Saesneg yn unig) PDF 90 KB Gweld fel HTML (1) 18 KB
- MHP02 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 217 KB Gweld fel HTML (2) 29 KB
- MHP03 - Plismona Cymru Gyfan (Saesneg yn unig) PDF 236 KB Gweld fel HTML (3) 27 KB
- MHP04 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 98 KB Gweld fel HTML (4) 29 KB
- MHP05 - Ysgrifennydd y Grwp Trawsbleidiol ar Blismona PDF 98 KB Gweld fel HTML (5) 50 KB
- MHP06 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) PDF 725 KB Gweld fel HTML (6) 298 KB
- MHP07 - Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 51 KB Gweld fel HTML (7) 22 KB
- MHP08 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) PDF 227 KB Gweld fel HTML (8) 35 KB
- MHP09 - Samaritans Cymru PDF 143 KB Gweld fel HTML (9) 31 KB
- MHP10 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Saesneg yn unig) PDF 89 KB Gweld fel HTML (10) 43 KB
- MHP11 - Cais, Hafal, ac Academi Morgan (Saesneg yn unig) PDF 124 KB Gweld fel HTML (11) 38 KB
- MHP12 - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- MHP13 - Swyddfa Comisiynydd Yr Heddlu a Throseddu Gwent (Saesneg yn unig) PDF 118 KB Gweld fel HTML (13) 27 KB
- MHP14 - Mind Cymru (Saesneg yn unig) PDF 353 KB Gweld fel HTML (14) 101 KB
- MHP15 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion PDF 289 KB Gweld fel HTML (15) 39 KB
- MHP16 - The Wallich PDF 117 KB Gweld fel HTML (16) 39 KB
- MHP17 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 65 KB Gweld fel HTML (17) 21 KB
- MHP18 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn unig) PDF 78 KB Gweld fel HTML (18) 35 KB
- MHP19 - Adran Gofal Cymdeithasol Conwy (Saesneg yn unig) PDF 70 KB Gweld fel HTML (19) 31 KB
- MHP20 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 59 KB Gweld fel HTML (20) 28 KB
- MHP21 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig) PDF 72 KB Gweld fel HTML (21) 30 KB
- MHP22 - Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 120 KB Gweld fel HTML (22) 49 KB
- MHP23 - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (Saesneg yn unig) PDF 94 KB Gweld fel HTML (23) 37 KB
- MHP24 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 172 KB Gweld fel HTML (24) 42 KB
- MHP25 - Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig) PDF 255 KB Gweld fel HTML (25) 53 KB
- MHP26 - Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (Saesneg yn unig) PDF 113 KB Gweld fel HTML (26) 36 KB
- MHP27 - Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru PDF 112 KB Gweld fel HTML (27) 38 KB
- MHP28 - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 66 KB Gweld fel HTML (28) 24 KB
- Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu - ymatebion i'r ymgynghoriad PDF 3 MB
- MHP AI 01 - Gwybodaeth Ychwanegol oddi wrth False Allegation Support Organisation (Saesneg yn unig) PDF 55 KB Gweld fel HTML (30) 24 KB
Diben yr ymgynghoriad
Bydd ymchwiliad manwl y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, y
gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol (ac eraill), i atal
pobl â phroblemau iechyd meddwl rhag cael eu rhoi yn nalfa’r heddlu, er mwyn
sicrhau y cânt driniaeth briodol tra byddant yn y ddalfa, ac i helpu i sicrhau
y caiff y lefel gywir o gefnogaeth ei darparu wrth iddynt adael y ddalfa. Bydd
yr ymchwiliad yn ystyried:
- P’un a oes digon o wasanaethau (h.y. gwasanaethau
iechyd a gwasanaethau gofal
cymdeithasol) ar gael i gefnogi swyddogion yr heddlu yng Nghymru i
ddargyfeirio pobl â phroblemau iechyd meddwl i ffwrdd o ddalfa’r heddlu.
- Nifer y bobl a arestiwyd o
dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a’r graddau y mae dalfa’r
heddlu yn cael ei defnyddio fel man diogel i bobl sydd mewn argyfwng
iechyd meddwl.
- P’un a yw awdurdodau lleol
a’r gwasanaethau iechyd yn cyflawni eu dyletswyddau ac yn cydymffurfio’n
llawn â gofynion deddfwriaethol i ddarparu mannau diogel priodol y gall yr
heddlu fynd â phobl sy’n cael eu cadw o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd
Meddwl 1983 iddynt.
- Y graddau y cedwir at y Cod
Ymarfer i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n
cael eu cadw o dan y Ddeddf honno gael eu cludo i’r ysbyty yn y modd sy’n
fwyaf tebygol o ddiogelu eu hurddas a’u preifatrwydd, gan ystyried unrhyw
risgiau (h.y. gydag ambiwlans, a ddylai fod ar gael mewn modd amserol, yn
hytrach na chyda thrafnidiaeth yr heddlu).
- Pa mor effeithiol y mae
heddluoedd yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid (fel y gwasanaethau
iechyd neu’r gwasanaethau gofal cymdeithasol) i ddiogelu pobl sy’n agored
i niwed yn nalfa’r heddlu, a pha mor dda y mae’r heddlu eu hunain yn nodi
ac yn ymateb i bobl fregus a gedwir yn y ddalfa, yn enwedig y rhai a gaiff
eu harestio o dan adran 136 o’r Deddf Iechyd Meddwl 1983.
- Effeithiolrwydd cynllunio
gofal amlasiantaeth ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl wrth iddynt
adael y ddalfa, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n cael eu cadw yn nalfa’r
heddlu o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 i helpu i’w hatal rhag
cael eu cadw yno dro ar ôl tro.
- P’un a oes trefniadau
gweithio ar y cyd effeithiol, sydd â ffocws penodol ar weithredu’r
Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl ar waith, gan gynnwys, a yw
Llywodraeth Cymru yn darparu goruchwyliaeth ac arweiniad digonol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion oedd 15 Mawrth
2019.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565