Ymgynghoriad

Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru: brandio a phrosesu bwyd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau â’i ymchwiliad ynghylch ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Bydd yr elfen ddiweddaraf yn ei ymchwiliad yn canolbwyntio ar frandio a phrosesu bwyd.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Gweithgarwch i hyrwyddo cynhyrchion bwyd o Gymru yn y DU ac yn rhyngwladol
  • Gweithgarwch i gefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i ddatblygu eu brandio
  • Gweithgarwch gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo cynhyrchion bwyd o Gymru yn rhyngwladol
  • Gwerth brandio bwyd yn fwyd lleol, bwyd o Gymru, bwyd o Brydain neu fel arall
  • Gwerth Enwau Bwyd Gwarchodedig (Dangosyddion Daearyddol), gan gynnwys cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer creu cynllun newydd i'r DU yn dilyn Brexit
  • Gwerth brandio bwyd yn y sector twristiaeth a lletygarwch
  • Strategaeth Llywodraeth Cymru a'r cymorth a roddir i broseswyr bwyd
  • Tueddiadau o ran capasiti prosesu yng Nghymru a sut y gallai Brexit effeithio ar hyn


Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.