Ymgynghoriad
Symposiwm i randdeiliaid ynghylch 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 21 Chwefror 2019 a Dydd Iau, 21 Chwefror 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ddigwyddiad i randdeiliaid
yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe er mwyn cynnal trafodaeth
ynghylch 'addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'.
Cefndir
Cynhaliodd
y Pwyllgor arolwg cyhoeddus yn ystod tymor yr haf 2018, gan wahodd aelodau o'r
cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad. Cymerodd bron i
2,500 o bobl ran yn yr arolwg, gyda 44 y cant ohonynt yn pleidleisio dros
'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion' fel pwnc.
Roedd
llawer o’r rhai a oedd o blaid gweld y Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad hwn yn
dadlau nad yw hanes Cymru yn cael ei addysgu o bersbectif Cymreig, ac yn dadlau
nad oes digon ohono yn y cwricwlwm.
Fodd
bynnag, mynegodd eraill y farn bod cryn sylw eisoes yn cael ei roi i'r pwnc hwn
o fewn y manylebau TGAU a Safon Uwch/Uwch Gyfrannol presennol, a bod hen ddigon
o gyfleoedd i'w astudio yn yr ysgol cyn hynny. Er enghraifft, mae Kirsty
Williams AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru, wedi
dweud bod llawer mwy o bwyslais ar yr angen i ddysgu agweddau ar hanes Cymru i
blant fel rhan o’r manylebau hanes newydd ar gyfer Safon Uwch/Uwch Gyfrannol a
TGAU.
Diben y
sesiwn
Cynhaliodd
y Pwyllgor ddigwyddiad undydd i randdeiliaid er mwyn casglu sylwadau.
Pwyntiau
trafod
Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar y pwyntiau trafod a ganlyn:
- I ba raddau y mae'r cwricwlwm
cyfredol a'r manylebau hanes ar gyfer TGAU a Safon U/UG yn sicrhau bod digon o
hanes Cymru a/neu hanes o bersbectif Cymreig yn cael ei addysgu mewn ysgolion.
- P'un a fydd y cwricwlwm newydd i
Gymru, sy'n cael ei ddatblygu yn dilyn Adolygiad Donaldson, yn gwella’r
cyfleoedd i ddysgu hanes Cymru a/neu hanes o safbwynt Cymreig neu'n cyfyngu
arnynt.
- Sut i daro'r cydbwysedd cywir rhwng
hyblygrwydd a disgresiwn i weithwyr addysg proffesiynol gyflwyno cwricwlwm
lleol sy'n addas i'w hysgolion penodol, a sicrhau cysondeb a sylw digonol i
hanes Cymru a phersbectif Cymreig ar yr hyn a addysgir.
- I ba raddau y mae’r cyhoedd
ehangach yng Nghymru yn ymwybodol o hanes, diwylliant a threftadaeth eu cenedl,
ac yn cael cyfleoedd i ddysgu am y pethau hyn.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565