Ymgynghoriad
Systemau a ffiniau etholiadol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 8 Ionawr 2020 a Dydd Mercher, 19 Chwefror 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- ESB 01 Yr Athro Denis Mollison (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- ESB 02 Comisiwn Ffiniau i Gymru PDF 1000 KB
- ESB 03 Peter Varley (Saesneg yn unig) PDF 254 KB Gweld fel HTML (4) 21 KB
- ESB 04 Y Comisiwn Etholiadol PDF 776 KB
- ESB 05 Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru PDF 881 KB
- ESB 06 Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (Saesneg yn unig) PDF 757 KB
- ESB 07 Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 758 KB
- ESB 08 Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig) PDF 880 KB
- ESB 09 Cyngor Sir Gaerfyrddin PDF 945 KB
- ESB 10 Cyngor Caerdydd PDF 768 KB
- ESB 11 Make Votes Matter (Saesneg yn unig) PDF 648 KB
- ESB 12 Cyngor Sir Benfro (Saesneg yn unig) PDF 69 KB Gweld fel HTML (13) 7 KB
Diben yr ymgynghoriad
Sefydlwyd y Pwyllgor
ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Medi 2019 i ymchwilio i
argymhellion y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y
Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol.
Gan adeiladu ar waith y Panel Arbenigol, ymchwiliodd y
Pwyllgor i oblygiadau posibl newid y system ar gyfer ethol Aelodau a diwygio'r
etholaethau a'r rhanbarthau y mae'r Aelodau'n eu cynrychioli.
Gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth i lywio ei ymchwiliad
ac roedd ei gylch gorchwyl fel a ganlyn:
Archwilio
argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad parthed
systemau a ffiniau etholiadol, a'r egwyddorion sy'n sail iddynt, a hynny drwy:
Archwilio
goblygiadau'r systemau etholiadol a'r ffiniau a argymhellwyd gan y Panel
Arbenigol ar gyfer cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru, ac ystyried sut y
gellid pwysoli’r egwyddorion a nodwyd gan y Panel Arbenigol i sicrhau bod
trefniadau etholiadol y Cynulliad yn briodol i gyd-destun Cymru;
Archwilio barn
a dealltwriaeth y cyhoedd ynghylch trefniadau a ffiniau etholiadol presennol y
Cynulliad a'r opsiynau a argymhellir gan y Panel Arbenigol;
Ystyried y
goblygiadau i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn sgil newid y system
etholiadol a model y ffiniau;
Archwilio
egwyddorion ac ymarferoldeb sefydlu trefniadau adolygu ffiniau ar gyfer
ardaloedd etholiadol y Cynulliad;
Ystyried
goblygiadau diwygio system etholiadol a ffiniau'r Cynulliad o ran cost ac
adnoddau.
Cynhaliwyd yr
ymgynghoriad rhwng 8 Ionawr 2020 a 19 Chwefror 2020.
Gofynnwyd i’r
ymatebwyr sicrhau eu bod wedi ystyried polisi'r
Senedd ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r
Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Committee on Assembly Electoral Reform
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDiwygio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565