Ymgynghoriad

Polisi morol yng Nghymru

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad byr i bolisi morol yng Nghymru.

Diben yr ymchwiliad hwn fydd:

  • asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran gweithredu Deddf y Môr 2009, yn benodol, mewn cysylltiad â phwerau cadwraeth forol a chynllunio gofodol morol y Ddeddf;
  • asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni ei chyfrifoldebau Ewropeaidd yn y maes hwn, yn arbennig o ran y Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, y Gyfarwyddeb Adar, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Ansawdd Dŵr Ymdrochi ar Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • pa gynnydd a wnaed i ddatblygu cynlluniau gofodol morol ar gyfer Cymru?
  • beth yw statws ardaloedd morol gwarchodedig Cymru ar hyn o bryd, a pha rôl a ddylai’r parthau cadwraeth morol newydd ei chael o ran y rhwydwaith o ardaloedd gwarchodedig hyn?
  • datblygiad swyddogaethau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â thrwyddedu morol a physgodfeydd, ac ystyried a fu’n effeithiol?
  • pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu cyfarwyddebau Ewropeaidd allweddol?
  • a oes digon o gydgysylltiad a chyd-weithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau cyfagos iddi, mewn cysylltiad â rheoli’r moroedd?
  • a oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau ariannol a staff i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran polisi a deddfwriaeth forol?
  • a yw rhanddeiliaid wedi cael eu cynnwys yn ddigonol yn y gwaith o lunio polisïau newydd a datblygu deddfwriaeth?

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Alun Davidson