Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Ieuenctid.

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • Pa mor effeithiol yw ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc?
  • Pa gamau y gellir eu cymryd i wella neu gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i ddarpar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?

Y materion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn yw:

  • Beth yw profiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?
  • Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? A yw'n ddigonol?
  • Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru?
  • Sut mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yn ymgorffori materion fel cydraddoldeb, menter gymdeithasol ac amrywiaethau rhanbarthol mewn sgiliau a chyfleoedd hyfforddi.
  • Pa gyfleoedd a gaiff eu cyflwyno drwy ehangu entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc fel modd o fynd i'r afael â diweithdra ac anweithgarwch ymysg pobl ifanc?
  • I ba raddau y mae entrepreneuriaeth yn ganolog i sefydliadau addysg uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru?
  • Pa dystiolaeth sydd ar gael o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gefnogi ac annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc?
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso ei gweithgareddau entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? Pa effaith y mae wedi ei chael ar nifer y bobl sy'n dechrau busnes?
  • Pa enghreifftiau o arfer da ym maes polisi entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc y gellir eu canfod o fewn Cymru, yn ehangach o fewn y DU, ac yn rhyngwladol?

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Siân Phipps - Committees
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA