Ymgynghoriad
Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 28 Tachwedd 2013 a Dydd Gwener, 3 Ionawr 2014
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i
ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi.
Y Cylch
Gorchwyl
- Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth
Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi?
- Pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn
gweithio gyda’i phartneriaid yn Llywodraeth y DU (Masnach a Buddsoddi y
DU, a Chyllid Allforio y DU)?
Materion
Allweddol
- Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth
Cymru yn ei roi tuag at hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi? A yw’n ddigonol?
A yw’n cynrychioli gwerth am arian?
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn
gwerthuso effeithiolrwydd ei gweithgareddau masnach a mewnfuddsoddi?
- A yw dulliau mewnol presennol Llywodraeth
Cymru o annog masnach a mewnfuddsoddi yn cynrychioli gwelliant ar y
sefydliadau a oedd yn bodoli’n flaenorol i gyflawni’r un swyddogaethau?
(h.y. Awdurdod Datblygu Cymru, MasnachCymru Rhyngwladol, ac yn
ddiweddarach Busnes Rhyngwladol Cymru)
- Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth
Cymru o ddatblygu buddsoddiad? (h.y. annog mewnfuddsoddwyr presennol i
ailfuddsoddi)
- Beth yw’r prif rwystrau sy’n wynebu allforwyr
posibl? Pa mor effeithiol yw’r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru (a
Llywodraeth y DU) i leihau’r rhwystrau hyn (e.e. teithiau masnach, cymorth
cyllid allforio)?
- Pa mor gryf yw’r ‘cynnig’ i fewnfuddsoddi yng
Nghymru?
- I ba raddau y mae yna frand Cymreig ystyrlon
ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi?