Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Fe gynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil ar y wefan.

 

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:

Ystyried -

  • egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu'n barhaus ac yn effeithiol trwy ddatgymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Llywodraeth y DU, Deddf Undebau Llafur 2016, fel y maent yn gymwys i awdurdodau datganoledig Cymru. Dyma'r darpariaethau sydd i gael eu datgymhwyso:
    • y trothwy pleidleisio o 40 y cant ar gyfer gweithredu diwydiannol sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig.
    • pwerau i'w gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth am amser cyfleuster ynghyd â gosod gofynion ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus mewn cysylltiad â thalu am amser cyfleuster, a
    • chyfyngiadau ar gyflogwyr mewn cysylltiad â didynnu taliad tanysgrifiadau undeb o gyflogau;
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Gweler y canllawiau i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

 

Polisi dwyieithrwydd

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a'u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565