Ymgynghoriad

Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

 

Cylch gorchwyl

  • Y sefyllfa bresennol o ran y Bargeinion Dinesig sydd eisoes wedi'u llofnodi ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe a'r camau nesaf sydd ar y gweill i'w datblygu;
  • Yr effaith y bwriedir i'r Bargeinion Dinesig ei chael a'r dulliau ar gyfer llywodraethu, ariannu a monitro hyn;
  • Y manteision a allai godi o Fargen Dwf bosibl ar gyfer gogledd Cymru;
  • I ba raddau y gallai bargen dwf debyg fod o fudd i ganolbarth Cymru;
  • I ba raddau y gallai'r bargeinion twf a dinesig ddatrys neu waethygu anghydraddoldebau presennol, mewn rhanbarthau a rhyngddynt;
  • I ba raddau y mae'r bargeinion twf a dinesig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.
  • Byddem hefyd yn croesawu safbwyntiau cymharol am ddulliau gweithredu bargeinion twf a rhanbarthau eraill ledled y DU.

 

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg, ac yn gofyn i sefydliadau â pholisïau neu gynlluniau Iaith Gymraeg ddarparu cyflwyniadau dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau i dystion sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Anfonwch eich safbwyntiau i: SeneddESS@cynulliad.cymru erbyn 3 Mai 2017. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565