Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Amgylchedd Hanesyddol

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i'r amgylchedd hanesyddol.

Cefndir

Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau treftadaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni gan Cadw, ei his-adran amgylchedd hanesyddol. Mae Cadw yn rhan o Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac mae'n atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.

Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2016.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 28 Gorffennaf a 25 Awst 2017, yn gwahodd cyflwyniadau mewn perthynas â'r cylch gorchwyl a ganlyn:

 

-     Rhoi Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol ar waith;

-     diogelu adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig;

-     diogelu adeiladau a henebion sydd mewn perygl;

-     hwyluso cydweithio o fewn y sector;

-     gwneud y gorau o werth twristiaeth treftadaeth a gwaith Cadw i gyrraedd ei dargedau ar gyfer cynhyrchu incwm;

-     rhoi adroddiad y Farwnes Andrews ar ddiwylliant a thlodi ar waith;

-     cydweithio ag asedau treftadaeth yn y sector preifat;

-     statws Cadw yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565