Ymgynghoriad

Creu’r Diwylliant Cywir: Ymchwiliad i’r Adolygiad o God Ymddygiad Aelodau’r Cynulliad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion wedi’i ymestyn hyd at 14 Chwefror 2018.

Mae Aelodau'r Cynulliad yn cyflawni gwaith democrataidd y Cynulliad; maent yn cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, yn gwneud cyfreithiau i Gymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. O'r herwydd, rydym yn awyddus i sicrhau bod yr amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo yn gadarnhaol ac yn agored.

Fel senedd, rydym wedi ymrwymo i gael diwylliant sefydliadol cynhwysol, sy'n rhoi grym i bobl ryngweithio â'r broses ddemocrataidd, yn lle enghreifftiol i weithio ac sy'n croesawu miloedd o ymwelwyr i'w hystâd. 

Nid oes unrhyw le yn ein sefydliad i ymddygiad amhriodol. Rydym am sicrhau bod pawb yn teimlo y gallant fynegi pryderon ynghylch ymddygiad nad ydynt yn gyfforddus ag ef gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.  Cyhoeddodd y Llywydd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ac arweinwyr grwpiau ddatganiad ynghylch mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad ar 15 Tachwedd 2017.

Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni'r disgwyliadau uchel yr ydym yn eu gosod i'n hunain, ac i weithredu'r ymrwymiadau yn y datganiad, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cytuno i wneud y canlynol:

  • Ystyried y gweithdrefnau presennol ynghylch cwynion* i sicrhau eu bod yn briodol ac yn glir er mwyn i unigolion deimlo y gallant sôn am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad amhriodol gyda hyder;
  • Datblygu polisi parch ac urddas sy'n nodi nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y sefydliad hwn; ac
  • Adolygu'r cosbau sydd ar gael i'r Pwyllgor i sicrhau bod unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn cael eu trin yn briodol.

Gan fod hwn yn broblem a all effeithio ar bob agwedd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddwn yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i sicrhau bod yr un safonau'n berthnasol i bawb.

Hoffai'r Pwyllgor glywed eich barn ar y cwestiynau a ganlyn:

  • A fyddech yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud cwyn am Aelod Cynulliad neu rywun sy'n gweithio ar ystâd y Cynulliad? Os na, pam?
  • A fyddech yn gwybod sut i wneud cwyn am Aelod Cynulliad neu rywun sy'n gweithio ar ystâd y Cynulliad?
  • A ydych yn teimlo bod unrhyw beth yn eich rhwystro rhag codi pryderon am ymddygiad amhriodol Aelod Cynulliad neu rywun sy’n gweithio ar ystâd y Cynulliad?
  • A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellid symleiddio'r weithdrefn gwyno?
    • A yw'r canllawiau'n glir? A yw'r iaith a ddefnyddir yn syml i'w deall?
    • A yw'r ddogfen yn eich helpu i ddeall pwy y dylech gysylltu â hwy ynghylch gwahanol fathau o gwynion?
    • Pe byddech yn profi ymddygiad amhriodol, a fyddech yn teimlo'n hyderus yn defnyddio'r weithdrefn fel y mae ar hyn o bryd?

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

* Fel y nodir yn y Cod Ymddygiad i Aelodau'r Cynulliad a'r Weithdrefn ar gyfer ymdrin â Chwynion am Aelodau'r Cynulliad

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddSafonau@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565