Ymgynghoriad

Bil deddfwriaeth (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru). Ceir rhagor o fanylion am y Bil a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar dudalen y Bil.

Cylch gorchwyl

Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod y canlynol:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion polisi a nodwyd ar gyfer y Bil;
  • unrhyw rwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
  • a oes canlyniadau anfwriadol yn codi o’r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 4 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 3 o’r Memorandwm Esboniadol).

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ar y cylch gorchwyl a'r graddau y bydd y Bil yn cyfrannu at wneud cyfraith Cymru yn fwy clir a hygyrch.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at: SeneddMCD@cynulliad.cymru

Dylai unrhyw dystiolaeth a gyflwynir ein cyrraedd erbyn 21 Ionawr 2019.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor..

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDCC@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565