Ymgynghoriad

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pysgodfeydd y DU

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn croesawu eich barn ar Fil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU. 

Cylch gorchwyl:

  • Beth yw eich barn ar y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y DU ar ôl Brexit  fel y nodir ym Mil Pysgodfeydd y DU?
  • Beth yw eich barn ar y darpariaethau ym Mil Pysgodfeydd y DU a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno polisi mewn perthynas â physgodfeydd Cymru ar ôl Brexit?
  • A ydych am godi unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r darpariaethau ym Mil Pysgodfeydd y DU fel y maent yn berthnasol i Gymru?

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565