Ymgynghoriad

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • Ydy’r data a’r dystiolaeth sy’n cael eu defnyddio gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn amserol, yn ddilys ac yn ddibynadwy? A fu unrhyw broblemau?
  • Pa mor dda y mae’r partneriaethau’n ymgysylltu â barn pobl nad ydynt yn eistedd ar y byrddau partneriaeth, ac yn ei hystyried; a pha mor dda mae nhw’n ystyried barn y darparwyr sgiliau eu hunain?
  • Sut mae rolau allweddol yn ymwneud â’r fargen ddinesig a’r fargen dwf y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn dylanwadu ar eu cylch gwaith o ran Llywodraeth Cymru?
  • A yw’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn wir yn gallu ateb gofynion o ran sgiliau ar hyn o bryd a sgiliau yn y dyfodol yn eu rhanbarthau? Beth am sgiliau arbenigol iawn y gall y galw amdanynt fod yn brin?
  • A oes gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o’r:
    • economi sylfaenol, ac o anghenion y rhai a gyflogir ynddi? ac
    • o’r galw am ddarpariaeth sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg?
  • A yw’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cael digon o adnoddau i gyflawni eu rôl gynyddol?
  • A oes cydbwysedd priodol rhwng gwaith y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r farn ehangach ar y galw am sgiliau?
  • A yw lefel y manylion gweithredol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth sgiliau yn y maes addysg uwch / addysg bellach ac ar gyfer darparwyr dysgu yn y gwaith yn briodol?
  • Os yw’r fath beth yn bod, sut mae tensiynau rhwng y galw am ddysgwyr / dilyniant dysgwyr yn cyd-fynd â chasgliadau’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a ffafriaeth Llywodraeth Cymru i ariannu sgiliau lefel uwch?
  • A yw’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru wedi gallu ysgogi newidiadau o ran darpariaeth sgiliau ‘ar lawr gwlad’ i adlewyrchu’r galw?
  • Beth, yn gyffredinol, sy’n gweithio’n dda a pha dystiolaeth o lwyddiant a’i effaith sydd ar gael?
  • A oes unrhyw agweddau ar y polisi nad ydynt yn gweithio’n dda? A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a pha welliannau y gellir eu gwneud?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn 4 Mawrth 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565