Ymgynghoriad

Ymchwiliad i eiddo gwag

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • i ba raddau y mae eiddo gwag yn effeithio ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru;
  • effaith eiddo gwag ar gymunedau yng Nghymru a’r heriau y mae awdurdodau yn eu hwynebu wrth geisio ymdrin â’r broblem hon;
  • i ba raddau y mae gan awdurdodau lleol y pwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnynt i ymdrin ag eiddo gwag;
  • esiamplau o arfer gorau wrth droi eiddo gwag yn dai fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni; ac
  • i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi manteisio ar y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rhoi disgresiwn iddynt godi premiwm y dreth gyngor ar dai gwag, ac effeithiolrwydd y polisi hwn.

Yn ei gais am dystiolaeth ysgrifenedig, roedd y Pwyllgor yn chwilio am atebion i’r cwestiynau canlynol:

1. A oes digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag yng Nghymru? Os nad oes, beth sydd angen ei newid?

2. Pa effaith y gall eiddo gwag ei chael ar gymuned?

3. Pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r offer statudol ac anstatudol sydd ar gael iddynt i fynd i’r afael ag eiddo gwag?

4. A oes angen pwerau statudol ychwanegol ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag? Os oes, pa bwerau sydd eu hangen arnynt? 

5. A yw perchnogion eiddo gwag yn cael y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i ddod â thai yn ôl i feddiannaeth? Os nad ydynt, pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt?

6. A oes digon o ymwybyddiaeth o’r cymorth ymarferol y gall awdurdodau lleol ei gynnig i berchnogion eiddo gwag? Os nad oes, sut y gellid gwella hyn?

7. A yw sgiliau ac adnoddau cymdeithasau tai a’r sector preifat yn cael eu defnyddio’n llawn i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag?

8. A oes digon yn cael ei wneud i sicrhau y gall eiddo gwag gael eu defnyddio unwaith eto fel cartrefi fforddiadwy? A oes enghreifftiau o arfer da yn hyn o beth?

9. A yw’r pŵer i godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor yn offeryn defnyddiol, ac a yw’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol? Os nad yw, sut y gellid gwneud yr offeryn hwn yn fwy effeithiol?

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565