Ymgynghoriad
Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: ymgynghoriad ar ran 3 o’r adolygiad
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 30 Medi 2019 a Dydd Llun, 11 Tachwedd 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Yn ei gyfarfod ar 19
Medi, cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei
drydedd sesiwn i drafod trydedd ran yr adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y
Chweched Cynulliad. Mae’r rhan hon o’r adolygiad yn canolbwyntio ar dâl
Aelodau, darpariaethau dirwyn i ben a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad, sy’n cael sylw ym mhenodau tri a naw o’r Penderfyniad.
Mae’r Bwrdd wedi nodi
nifer o feysydd yn y penodau hyn lle mae o’r farn y gallai fod angen gwneud
newidiadau. Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i newid rhai o
reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau. Mae manylion llawn am gynigion y Bwrdd yn y ddogfen
ymgynghori.
Cylch
gorchwyl
Yn ei adroddiad
strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei ymrwymiad i
gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad
cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn
ar gyfer yr adolygiad:
- addasrwydd lefel y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad
- pa mor hyblyg, rhagnodol a hygyrch yw’r darpariaethau;
- gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar
gael.
Darparu
tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae’r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi
yn yr iaith y’u cyflwynwyd, gan nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n
unig.
Mae’r Bwrdd yn disgwyl i
sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Gofynnwn ichi sicrhau
eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio’ch gwybodaeth cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r llythyr ymgynghori.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Llun 11
Tachwedd 2019. Mae’n bosibl na fydd modd
ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565