Ymgynghoriad

Tasglu’r Cymoedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn croesawu cael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â hwy yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:

  • I ba raddau y mae Tasglu'r Cymoedd o fudd i gymunedau'r Cymoedd?
  • A yw mentrau polisi penodol y Tasglu yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus a fydd yn helpu i greu twf cynaliadwy a lleihau tlodi?
  • A yw'r Tasglu'n targedu ei weithgareddau a'i brosiectau mewn rhannau o'r Cymoedd y mae arnynt eu hangen fwyaf?
  • Ym mis Gorffennaf 2019 nododd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'r Tasglu'n canolbwyntio ar saith maes blaenoriaeth ac estynnwyd ardal y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Chwm Aman. Beth fu effaith y newidiadau i flaenoriaethau'r Tasglu? A yw hyn wedi gwneud y Tasglu yn fwy neu'n llai effeithiol?
  • Pa mor dda y mae'r Tasglu yn gweithio gyda mentrau eraill i ddatblygu’r economi yn y Cymoedd, a hynny gan ychwanegu gwerth atynt?
  • I ba raddau y mae'r Tasglu wedi ystyried cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ei ffrydiau gwaith, ac a ydych yn fodlon ar y dull o fesur canlyniadau?
  • Pa ddulliau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu defnyddio yn ei strategaeth economaidd arfaethedig ar gyfer Blaenau’r Cymoedd, a pha gamau neu bolisïau penodol y dylid eu cynnwys yn hyn?
  • Pa fesurau tymor byr ychwanegol y gellid eu mabwysiadu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymunedau'r Cymoedd cyn i'r Tasglu ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2021?
  • Sut y dylid bwrw ymlaen â gwaith y Tasglu ar ôl iddo ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2021? Pa ffrydiau gwaith y dylai Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu, ac i ba raddau y mae angen iddi newid ei dull o weithio?

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn 9 Ebrill 2020

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565