Ymgynghoriad
Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2020 a Dydd Iau, 4 Mehefin 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- Pecyn ymgynghori PDF 1 MB
- MJW 01 Sefydliad Cymorth Honiadau Ffug y DU (FASO UK) (Saesneg yn unig) PDF 44 KB
- MJW 02 Cymdeithas y Cyfreithwyr (Saesneg yn unig) PDF 553 KB Gweld fel HTML (3) 34 KB
- MJW 03 Swyddfa Comisynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent PDF 220 KB Gweld fel HTML (4) 16 KB
- MJW 04 Y Bwrdd Parôl PDF 616 KB Gweld fel HTML (5) 44 KB
- MJW 05 Ymddiriedolaeth Ddiwygio Carchardai (Saesneg yn unig) PDF 590 KB Gweld fel HTML (6) 54 KB
- MJW 06 Comisiynydd Plant Cymru PDF 204 KB Gweld fel HTML (7) 47 KB
- MJW 07 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 558 KB Gweld fel HTML (8) 112 KB
- MJW 08 My Death, My Decision PDF 178 KB
- MJW 09 Canolfan Llywodraethiant Cymru (Mae’r adroddiad atodedig yn Saesneg yn unig) PDF 3 MB
- MJW 10 Comisiynydd y Gymraeg PDF 533 KB
- MJW 11 Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (Saesneg yn unig) PDF 456 KB Gweld fel HTML (12) 49 KB
- MJW 12 Y Cwnsler Cyffredinol – Llywodraeth Cymru PDF 164 KB
- MJW 13 Plismona yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 85 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad yn cynnal ymchwiliad, sef Gwneud i Gyfiawnder weithio yng
Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cynnal ei ymchwiliad mewn dwy ran a byddai'n
croesawu safbwyntiau sy'n berthnasol i'r cylch gorchwyl:
Rhan 1 -
Canfod y ffeithiau ac edrych tua’r dyfodol
- Nodi a mapio cyfrifoldebau a swyddogaethau
presennol y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chraffu ar
faterion cyfiawnder.
- Nodi ac adolygu’r trefniadau presennol ar
gyfer ariannu materion cyfiawnder y mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn
gyfrifol amdanynt eisoes.
- Ystyried y modd y caiff swyddogaethau
cyfiawnder presennol eu gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys polisïau
Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig a’r modd y maent yn
rhyngweithio â’r system gweinyddu cyfiawnder;
- Ystyried effaith y berthynas rhwng cymhwysedd
y DU a Chymru ar faterion cyfiawnder penodol a nodi’r meysydd sy’n peri
pryder;
- Ystyried sut y gallai’r Senedd fod yn fwy
rhagweithiol wrth graffu ar gyfiawnder, gan gynnwys sut y gallai cyrff
cyfiawnder ymgysylltu â’r Senedd.
Rhan 2 -
Dadansoddi sut y gallai'r system gyfiawnder weithredu'n fwy effeithiol yng
Nghymru
- Gan ddefnyddio canlyniadau Rhan 1, archwilio
unrhyw feysydd sy’n peri pryder o ran y cydbwysedd rhwng pwerau cyfiawnder
ac, yn unol â hynny, a ellid defnyddio dulliau mwy cydlynol a
chydgysylltiedig o ddatblygu polisi cyfiawnder;
- Ystyried goblygiadau a chanlyniadau unrhyw
gynnig posibl i ddatganoli cyfiawnder a pha mor ymarferol fyddai gwneud
hynny;
- Dysgu oddi wrth y modd y mae’r DU a
deddfwrfeydd eraill yn craffu ar gyfiawnder.
Croesewir
cyfraniadau i’r ymchwiliad erbyn 4 Mehefin 2020.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd
Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio
â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl
sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran
datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDCC@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565