Ymgynghoriad

Ethol Senedd fwy amrywiol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ym mis Medi 2019 i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad o ran maint y Senedd a sut y caiff Aelodau eu hethol. Gofynnwyd am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ymchwiliad i Pwyllgor ynghylch ethol Senedd fwy amrywiol.

 

Roedd y cwestiynau oedd i’w cael yn y llythyr ymgynghori (PDF, 211KB) yn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â pha mor amrywiol a chynrychioliadol yw’r Senedd a’r ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 11 Mawrth 2020 a 21 Mai 2020.

 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sicrhau eu bod wedi ystyried polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Committee on Assembly Electoral Reform
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDiwygio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565