Penderfyniadau

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

17/03/2016 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 18.09

NDM6011 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal sylfaenol yng Nghymru, gyda phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n heneiddio gyda mwy o anghenion gofal cymhleth;

2. Yn nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario ar ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn 2015-2016;

3. Yn nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon teulu yn y DU, gyda 23 y cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran hyfforddi digon o feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad cleifion at feddygon teulu;

b) gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol;

c) adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i ddiwallu anghenion cleifion;

d) gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd priodol;

e) adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu; a

f) gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel proffesiwn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


28/01/2016 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5938 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod argyfwng tai yng Nghymru, gan nodi yn benodol:

a) bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;

b) yr amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol;

c) bod llawer o brynwyr tro cyntaf yn parhau i gael trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a

d) bod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn tenantiaid rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch cartrefi gwael yn y sector rhentu preifat.

2. Yn credu bod angen mwy o uchelgais i sicrhau bod pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy, sy'n gallu bod yn ffactor allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y dylai hyn gynnwys:

a) dyblu'r targed ar gyfer tai fforddiadwy i 20,000 yn ystod y Cynulliad nesaf;

b) cynllun rhentu i berchen i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal; ac

c) gweithredu i wella ansawdd a diogelwch cartrefi yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i feirniadu ar anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:

bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o:

i) argymhellion adroddiad Holmans ynghylch adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;

ii) argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan, 'The Shape of Wales to Come', a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a

iii) y farn a fynegwyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

27

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 2:          

Dileu 'dylai' a rhoi 'gallai' yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

28

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys isbwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:

diwygio cyfraith tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr;

sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;

datblygu cwmnïau tai o dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn ymateb i angen lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Gymru weithredu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly gwneud tai yn fwy fforddiadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


10/12/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.  Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;

2.  Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;

3.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:

a) lleihau maint dosbarthiadau babanod i 25 i roi mwy i amser i athrawon  ymgymryd â gwaith dysgu gyda disgyblion unigol;

b) cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;

c) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus;

d) cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; ac

e) cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

43

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd mwyaf effeithiol o gynyddu cyrhaeddiad addysgol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

10

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd gan roi'r rhyddid iddynt ragori drwy:

a) cyflwyno rhaglen gynhwysfawr i benaethiaid sy'n cynnig datblygu proffesiynol parhaus a chymorth parhaus i'r holl benaethiaid;

b) gweithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu a chynnig cyfres o raglenni datblygu proffesiynol parhaus sy'n darparu ar gyfer anghenion athrawon ac ysgolion;

c) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol; a

d) dileu'r baich biwrocrataidd ar athrawon i'w galluogi i weithredu system monitro unigol i ddisgyblion.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt a).

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

15

48

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cyflwyno datblygu proffesiynol parhaus gorfodol i athrawon.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 5 -Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o gapasiti addysgu ac anghenion hyfforddiant er mwyn galluogi cynllunio gweithlu cywir.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.  Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;

2. Yn credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd mwyaf effeithiol o gynyddu cyrhaeddiad addysgol.

3.  Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;

4.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:

a) cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;

b) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus;

c) cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; a

d) cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.


26/11/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5889 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cytundeb byd-eang ar gytuniad newid hinsawdd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2015 ym Mharis, i sicrhau bod yr amcan y cytunwyd arno yn rhyngwladol o gyfyngu ar gyfartaledd y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i lai na dwy radd Celsius yn aros o fewn cyrraedd;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain gydag uchelgais drwy osod targed ym Mil yr Amgylchedd (Cymru) ar gyfer gostyngiad o 100 y cant mewn nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

47

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

11

15

52

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn Gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith cynllunio economi carbon isel ar gyfer Cymru, i ddarparu swyddi gwyrdd ar gyfer y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd monitro allyriadau carbon blynyddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r rôl y gall ôl-osod eiddo hŷn ei chwarae o ran bodloni'r targedau lleihau allyriadau carbon.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau rheoliadau adeiladu a uwchraddio ei rhaglen ôl-osod yn sylweddol er mwyn torri allyriadau, helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a chreu swyddi.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5889 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cytundeb byd-eang ar gytuniad newid hinsawdd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2015 ym Mharis, i sicrhau bod yr amcan y cytunwyd arno yn rhyngwladol o gyfyngu ar gyfartaledd y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i lai na dwy radd Celsius yn aros o fewn cyrraedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith cynllunio economi carbon isel ar gyfer Cymru, i ddarparu swyddi gwyrdd ar gyfer y dyfodol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd monitro allyriadau carbon blynyddol.

4. Yn nodi'r rôl y gall ôl-osod eiddo hŷn ei chwarae o ran bodloni'r targedau lleihau allyriadau carbon.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau rheoliadau adeiladu a uwchraddio ei rhaglen ôl-osod yn sylweddol er mwyn torri allyriadau, helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a chreu swyddi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio


19/11/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.04

NDM5878 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy na 170,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ym maes twristiaeth a sectorau cysylltiedig;

2. Yn nodi bod 44 y cant o'r bobl a gyflogir o fewn y sector twristiaeth o dan 30, ac felly gallai mesurau i gefnogi'r sector hwn chwarae rôl allweddol yn y broses o leihau'r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru;

3. Yn credu y byddai gostyngiad mewn TAW ar dwristiaeth yn annog mwy o ymwelwyr rhyngwladol a domestig, yn rhoi hwb sylweddol i fusnesau lleol ac yn arwain at fwy o fuddsoddiad, swyddi a thwf economaidd;

4. Yn nodi bod 25 o aelod-wladwriaethau eraill yr UE eisoes yn manteisio ar eithriad yr EU ar gyfer cyfradd TAW is ar gyfer atyniadau a llety twristaidd; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ostwng TAW ar dwristiaeth o 20 y cant i 5 y cant, i'n helpu ni i gystadlu yn erbyn gwledydd eraill Ewrop ac anfon neges gref bod Cymru yn agored i dwristiaid ac yn agored ar gyfer busnes.

Cafodd y cynnig, heb welliannau, ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog.


05/11/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5865 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gan stryd fawr fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, cefnogi swyddi a menter lleol a gwella cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol;

2. Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau i dwf canol trefi, sy'n cynnwys:

a) y cynnydd mewn adwerthu ar-lein ac ar gyrion trefi;

b) colli gwasanaethau lleol neu asedau cymunedol a'r gyfres ddiweddaraf o fanciau a gafodd eu cau;

c) y gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr sy'n gyson yn uwch na chyfartaledd y DU;

d) y diffyg ystyriaeth gynnar o drafnidiaeth gynaliadwy mewn prosiectau adfywio; ac

e) methiant y system gynllunio i hwyluso datblygu ac annog buddsoddiad mewn ymateb i'r newidiadau yn yr hyn y mae cwsmeriaid yn galw amdano.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynigion arloesol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys datblygu rhwydwaith dysgu cenedlaethol i gynnig hyfforddiant ac adnoddau, hwyluso rhwydweithio i gael ysbrydoliaeth ar arfer gorau a chasglu a rhannu mynediad i ymchwil o bob cwr o'r byd ar adfywio canol trefi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

10

43

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


08/10/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.42

NDM5840 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi y gall problemau iechyd meddwl, heb gymorth a thriniaeth briodol, gael effaith ddinistriol ar ansawdd bywyd person, gan effeithio ar ei waith, ei fywyd cartref a'i berthnasau;

 

2. Yn croesawu diwrnod iechyd meddwl y byd, Amser i Newid Cymru, Gyda’n Gilydd Nawr! ac ymgyrchoedd eraill sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma a gwahaniaethu;

 

3. Yn credu bod llawer i'w wneud o hyd er mwyn darparu gwell gofal a chymorth i bobl o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) rhoi blaenoriaeth gyfartal i iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn y gyfraith i helpu i yrru newid diwylliannol mewn agweddau;

 

b) sicrhau bod y gyfran o gyllid ar gyfer iechyd meddwl o fewn cyllideb gyffredinol GIG Cymru yn gyson â'r baich clefydau, gan adlewyrchu maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol;

 

c) cyflwyno safonau amseroedd aros newydd ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol;

 

d) gwella hyfforddiant iechyd meddwl i athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr er mwyn rhoi'r sgiliau iddynt adnabod a chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl; ac

 

e) cyflwyno set graidd o ddata iechyd meddwl, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau gweithredu a sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


24/09/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5826 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Rhaglen Cefnogi Pobl, sy'n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl fregus fyw'n annibynnol yn eu cymunedau ac i roi terfyn ar allgáu cymdeithasol.

 

2. Yn nodi bod y rhaglen wedi cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru y llynedd, gan gynnwys pobl ddigartref, pobl mewn perygl o drais yn y cartref, pobl hŷn, pobl anabl neu bobl sydd ag anghenion cymhleth.

 

3. Yn nodi y torrwyd cyllid y Rhaglen Cefnogi Pobl 8.3 y cant mewn termau real rhwng 2014-15 a 2015-16.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adolygu gofynion gweinyddu a monitro'r Rhaglen Cefnogi Pobl i sicrhau bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer darpariaeth rheng flaen; a

 

b) amddiffyn y Grant Cefnogi Pobl o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol megis iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac yr amcangyfrifir y gall pob £1 a fuddsoddir yn y rhaglen hon arbed hyd at £2.30 i bwrs y wlad.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5826 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Rhaglen Cefnogi Pobl, sy'n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl fregus fyw'n annibynnol yn eu cymunedau ac i roi terfyn ar allgáu cymdeithasol.

 

2. Yn nodi bod y rhaglen wedi cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru y llynedd, gan gynnwys pobl ddigartref, pobl mewn perygl o drais yn y cartref, pobl hŷn, pobl anabl neu bobl sydd ag anghenion cymhleth.

 

3. Yn nodi y torrwyd cyllid y Rhaglen Cefnogi Pobl 8.3 y cant mewn termau real rhwng 2014-15 a 2015-16.


4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu gofynion gweinyddu a monitro'r Rhaglen Cefnogi Pobl i sicrhau bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer darpariaeth rheng flaen; a

 

b) amddiffyn y Grant Cefnogi Pobl o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

 

5. Yn nodi bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol megis iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac yr amcangyfrifir y gall pob £1 a fuddsoddir yn y rhaglen hon arbed hyd at £2.30 i bwrs y wlad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


25/06/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.17

NDM5790 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod gwerth darlledu neilltuol yn yr iaith Gymraeg a chyfraniad pwysig S4C o ran diogelu ein hiaith Gymraeg a chyfoethogi diwylliant Cymru;

 

2. Yn gwrthwynebu unrhyw doriadau pellach yng nghyllid S4C gan Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a allai fygwth dyfodol y sianel hon; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU am bwysigrwydd cynnal annibyniaeth olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C a'r angen am sail cyllid cynaliadwy i ddiogelu dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.


Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


11/06/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:

 

a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;

 

b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;

 

c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;

 

d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac

 

e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

42

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r GIG yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

9

29

48

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:

 

a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;

 

b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;

 

c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;

 

d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw;

 

e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.

 

f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

29

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.


04/06/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 18.00

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5770 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn gam yn ôl o ran hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

15

39

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 


30/04/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.

2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:

a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;

b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac

c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

37

41

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:

a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;

b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac

c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

7

42

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

9

21

41

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:

a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;

b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac

c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.

2. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.

3. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:

a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;

b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac

c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

28

41

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


19/03/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5727 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi.

2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

5. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc.

6. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol;

b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru;

c) diwygio fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion;

d) canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac

e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

46

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

29

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn is-bwynt 7b), dileu 'sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru' a rhoi yn ei le 'sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

4

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

sicrhau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

1

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5727 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi.

2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

5. Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc.

7. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol;

b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon;

c) diwygio fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion;

d) canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac

e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.

f) sicrhau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

0

8

42

50

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/02/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.54

 

Oherwydd nam technegol gyda’r system feicroffonau, cafodd y trafodion eu hatal am 17.18. Cafodd y gloch ei chanu cyn ailymgynnull am 17.30.

 

NDM5702 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi:       

 

a) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn profi problem iechyd meddwl o fewn unrhyw flwyddyn benodol;

 

b) bod Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y cynrychiolir 20% o'r 'baich afiechyd' yn y DU gan salwch meddwl ond mai dim ond 11% o wariant y GIG sy'n cael ei wario ar iechyd meddwl;

 

c) y gall problemau iechyd meddwl ryngweithio â chyflyrau eraill i waethygu lles unigolyn ymhellach;

 

d) yn ôl Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig, fod tri chwarter o anhwylderau meddwl ymysg oedolion yn dod i'r amlwg erbyn iddynt droi'n 21 oed, ond nad yw tri chwarter o'r plant a'r bobl ifanc sydd â'r anhwylderau hyn wedi cael diagnosis neu gael eu trin;

 

e) bod Stats Cymru wedi dangos bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cynrychioli 85% o'r boblogaeth a wnaeth aros mwy na 18 wythnos ym mis Rhagfyr 2014 rhwng cael eu hatgyfeirio a chael eu triniaeth gyntaf ar gyfer problemau iechyd meddwl;

 

f) y canfu gwaith ymchwil gan Mind na fyddai 1 o bob 3 o weithwyr yn y DU yn gallu siarad yn agored â'u rheolwyr llinell am straen.

 

2. Yn croesawu gwaith ardderchog y trydydd sector o ran codi ymwybyddiaeth o les iechyd meddwl.

 

3. Yn credu bod yn rhaid i fwy gael ei wneud i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain.

 

4. Yn credu bod yn rhaid cael cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a chorfforol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynnal astudiaeth i bennu pa gyllid ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol;

 

b) ehangu seiciatreg gyswllt yn y GIG i ddarparu cymorth gofal iechyd meddwl ar gyfer pobl sy'n cael eu trin ar gyfer problemau iechyd corfforol;

 

c) cynnig hyfforddiant cymorth iechyd meddwl a chyngor i bawb sy'n gweithio'n agos gyda phlant;

 

d) sicrhau bod pob athro dan hyfforddiant newydd yn cael hyfforddiant cymorth iechyd meddwl sylfaenol fel rhan o'r statws athro cymwysedig;

 

e) sicrhau bod cyflogwyr yn sicrhau bod gweithleoedd yn cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o iechyd meddwl.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


29/01/2015 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.50

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod cael mynediad at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector preifat.

 

2. Yn nodi bod gwella sgiliau poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol i economi Cymru.

 

3. Yn nodi bod ein natur wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu ein heconomi a gwella cysylltedd.

 

4. Yn credu bod yna lawer o gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a chapasiti hyfforddi.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:

 

a) creu banc datblygu yng Nghymru;

 

b) datblygu rhwydweithiau o ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;

 

c) ymgorffori sgiliau ehangach megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;

 

d) datganoli mwy o bwerau dros ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;

 

e) gwella ein seilwaith trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd, datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith presennol; ac

 

f) lansio adolygiad radical a systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

47

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod bod sector preifat llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Yn is-bwynt 5(e), mewnosoder ar ôl 'Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd':

 

'a Llinell y Gororau'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 5e) dileu 'datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas' a rhoi yn ei le 'datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach i roi rhyddhad o 100% i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai a rhyddhad sy'n lleihau'n raddol ar gyfer y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,001 a £15,000.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

sefydlu corff newydd i weithio ochr yn ochr â UKTI i adeiladu perthynas fasnachu rhwng busnesau Cymru a'r gymuned ryngwladol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod sector preifat llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

 

2. Yn nodi bod cael mynediad at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector preifat.

 

3. Yn nodi bod gwella sgiliau poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol i economi Cymru.

 

4. Yn nodi bod ein natur wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu ein heconomi a gwella cysylltedd.

 

5. Yn credu bod yna lawer o gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a chapasiti hyfforddi.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:

 

a) creu banc datblygu yng Nghymru;

 

b) datblygu rhwydweithiau o ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;

 

c) ymgorffori sgiliau ehangach megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;

 

d) datganoli mwy o bwerau dros ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;

 

e) gwella ein seilwaith trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd, datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith presennol; ac

 

f) lansio adolygiad radical a systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


20/11/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.11

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5623 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn.

 

2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu;

 

b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac

 

c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y caiff y Gweinidog ei benodi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

19

47

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


13/11/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.17

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5615 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r rhagolygon presennol y bydd y cytundeb consesiwn ar gyfer pontydd Hafren yn dod i ben yn 2018 a bod angen cynnal trafodaethau cynnar ynghylch system codi tollau, gwaith cynnal a chadw a pherchnogaeth y pontydd at y dyfodol.

 

2. Yn credu bod y system codi tollau bresennol yn faich annheg ar fusnesau, teithwyr a'r cyhoedd.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar gynllunio ar gyfer dyfodol y pontydd.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r tollau ar bontydd Hafren unwaith y bydd y costau adeiladu ac atgyweirio presennol yn cael eu talu.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

39

44

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

4. Yn galw am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bennu'r tollau ar bontydd Hafren, yn dilyn y consesiwn, i Lywodraeth Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i leihau'r tollau ar bontydd Hafren i adlewyrchu costau cynnal a chadw yn unig, ac i barhau i roi ystyriaeth i'r opsiwn tymor hir o ddileu'r tollau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

5

44

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5615 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r rhagolygon presennol y bydd y cytundeb consesiwn ar gyfer pontydd Hafren yn dod i ben yn 2018 a bod angen cynnal trafodaethau cynnar ynghylch system codi tollau, gwaith cynnal a chadw a pherchnogaeth y pontydd at y dyfodol.

 

2. Yn credu bod y system codi tollau bresennol yn faich annheg ar fusnesau, teithwyr a'r cyhoedd.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar gynllunio ar gyfer dyfodol y pontydd.

 

4. Yn galw am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bennu'r tollau ar bontydd Hafren, yn dilyn y consesiwn, i Lywodraeth Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i leihau'r tollau ar bontydd Hafren i adlewyrchu costau cynnal a chadw yn unig, ac i barhau i roi ystyriaeth i'r opsiwn tymor hir o ddileu'r tollau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

5

44

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


09/10/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.24

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5593 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd.

 

2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys Premiwm Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed.

 

3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd blaenorol y cynllun o ran sicrhau bod cyllid yn parhau.

 

4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a chefndiroedd mwy breintiedig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

19

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


25/09/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.05

NDM5574 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r ffaith yr oedd pobl 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban, sef y tro cyntaf iddynt gael gwneud hynny mewn etholiad arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd grymuso pobl ifanc yng Nghymru i ymgysylltu â gwleidyddiaeth a chyfrannu eu safbwyntiau a'u syniadau i helpu i lunio'r cymunedau lle y maent yn byw;

3. Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn 2014 a ganfu nad yw 49% o bobl rhwng 16 a 17 oed yn y DU wedi cofrestru i bleidleisio ac yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth; a

4. Yn croesawu'r camau sy'n cael eu cynnig drwy Fil Cofrestru Pleidleiswyr y DU i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth drwy rymuso swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i wella prosesau rhannu data a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


19/06/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.02

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd.

 

2. Yn croesawu'r cynigion gan Lywodraeth y DU i gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol.

 

3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a chreu swyddi hyd yma.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy:

 

a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu;

 

b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes enghreifftiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i Gymunedau i leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am sefydlu eu rhai eu hunain;

 

c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen bresennol;

 

d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu cymunedol; ac

 

e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod polisïau newid yn yr hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac ysgolion o ran cyflwyno newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o faterion ecolegol yn ein hysgolion.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

47

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Ym mhwynt 2, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi‘nodi’r’ yn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Ym mhwynt 3, dileu ‘gresynu at y’ a rhoi‘nodi’r’ yn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

 

sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig ar y rhaglen lwyddiannus Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy fenthyciadau i gymunedau lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni cymunedol, benthyciadau a fyddai'n cael eu dileu petai’r prosiectau’n aflwyddiannus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

 

ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'n sylweddol y defnydd o ynni yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni o fewn un prosiect cynhyrchu sy’n eiddo i gymunedau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyllid cyhoeddus i Ynni Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd.

 

2. Yn nodi’r cynigion gan Lywodraeth y DU i gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol.

 

3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a chreu swyddi hyd yma.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy:

 

a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu;

 

b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes enghreifftiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i Gymunedau i leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am sefydlu eu rhai eu hunain;

 

c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen bresennol;

 

d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu cymunedol;

 

e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod polisïau newid yn yr hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac ysgolion o ran cyflwyno newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o faterion ecolegol yn ein hysgolion;

 

f) sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig ar y rhaglen lwyddiannus Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy fenthyciadau i gymunedau lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni cymunedol, benthyciadau a fyddai'n cael eu dileu petai’r prosiectau’n aflwyddiannus; ac

 

g) ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'n sylweddol y defnydd o ynni yng Nghymru.

 

5. Yn nodi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni o fewn un prosiect cynhyrchu sy’n eiddo i gymunedau.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyllid cyhoeddus i Ynni Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


12/06/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.20

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5524 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2014 sy'n cydnabod ac yn dathlu cyfraniad mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i deulu a ffrindiau.

 

2. Yn nodi'r dystiolaeth gynyddol o rôl hynod heriol gofalu, a all gael effaith andwyol ar iechyd, cyfleoedd cyflogaeth, gweithgarwch cymdeithasol a hamdden y rhai sy'n rhoi gofal yn ddi-dâl.

 

3. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ‘Prepared to Care?’ 2013 a ganfu nad oedd 75 y cant o ofalwyr yn barod am rôl ofalu ac nad oedd 81 y cant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, sy'n aml yn golygu bod gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed ac yn ynysig.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth i annog hunan-nodi a mynediad i gymorth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl gofalwyr;

 

b) datblygu gwybodaeth i gyflogwyr gynorthwyo gweithwyr sy'n ceisio cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u rolau gofalu; ac

 

c) gweithio gyda darparwyr addysg i gynnig darpariaeth mwy hyblyg i alluogi gofalwyr o bob oed i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


08/05/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.11

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering Wales’ Future'.

 

2. Yn gresynu bod pleidiau ledled y DU sy'n wleidyddol geidwadol yn parhau i wrthod y dystiolaeth lethol sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd.

 

3. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni.

 

4. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd dibynadwy a chynaliadwy.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol;

 

b) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy;

 

c) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a phrentisiaid;

 

d) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i gael mantais gystadleuol;

 

e) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio drydanol ar raddfa fawr fel batris;

 

f) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad sefydlog o drydan carbon isel; a

 

g) datblygu cyngor technegol newydd ar gyfer hollti hydrolig, gan gynnwys profion tyllu, i sicrhau bod diogelwch a diogelu'r amgylchedd yn cyrraedd y safonau uchaf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

43

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le “Yn nodi bod pobl ym mhob rhan o gymdeithas a fydd yn dal i gwestiynu'r rhesymau sydd wrth wraidd newidiadau yn ein hinsawdd fyd-eang”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

37

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 2, dileu ‘pleidiau ledled y DU sy'n wleidyddol geidwadol’ a rhoi ‘Llywodraeth y DU’ yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

11

0

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

archwilio potensial sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu is-bwynt 5g

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

23

48

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'r defnydd o ynni a sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

11

0

48

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb adeiladu cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi amrywiol fathau o ynni adnewyddadwy, a buddsoddi ynddynt, er mwyn cyflawni’r amcanion allweddol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd ac yn nodi bod digon o geisiadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ar y gweill yn y system gynllunio i fodloni targedau ynni adnewyddadwy’r DU

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

7

30

48

Gwrthodwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y dylai’r Bil Cynllunio roi mwy o rym i gymunedau lleol dderbyn neu wrthod cynlluniau ynni adnewyddadwy penodol yn ôl yr hyn sydd orau i’w hardal leol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

5

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering Wales’ Future'.

 

2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod y dystiolaeth lethol sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd.

 

3. Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni.

 

4. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni.

 

5. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd dibynadwy a chynaliadwy.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol;

 

b) archwilio potensial sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu;

 

c) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy;

 

d) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a phrentisiaid;

 

e) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i gael mantais gystadleuol;

 

f) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio drydanol ar raddfa fawr fel batris;

 

g) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad sefydlog o drydan carbon isel;

 

h) cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'r defnydd o ynni a sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr; a

 

i) cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb adeiladu cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru;

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

5

11

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


03/04/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

 

2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol o adolygiad 2009 o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac yn nodi'r pryderon sylweddol yn adolygiad dilynol 2013 o faterion diogelwch.

 

3. Yn gresynu bod nifer y bobl ifanc sy'n aros mwy na 14 wythnos i gael gwasanaethau seiciatrig plant a'r glasoed wedi cynyddu bron bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, o 199 ym mis Ionawr 2013 i 736 ym mis Ionawr 2014.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) mynd i'r afael â'r amrywiad annheg o ran argaeledd a hygyrchedd CAMHS yng Nghymru;

 

b) ymchwilio i'r amseroedd aros rhwng asesiad cyntaf plentyn neu unigolyn ifanc gyda CAMHS a'u hatgyfeirio dilynol i wasanaeth;

 

c) adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer unedau cleifion mewnol CAMHS a lleoliadau y tu allan i ardaloedd;

 

d) cyhoeddi ystadegau aildderbyn yn rheolaidd i helpu i lywio tueddiadau yn y system rhyddhau cleifion;

 

e) sicrhau bod yr holl staff clinigol yn CAMHS wedi cael gwiriadau diogelwch priodol;

 

f) sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl i oedolion;

 

g) egluro statws y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth;

 

h) ystyried cyflwyno addysg iechyd meddwl yn y cwricwlwm ysgol i godi ymwybyddiaeth a helpu i fynd i'r afael â materion o ran stigma; a

 

i) cyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y pontio rhwng CAMHS a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, gan gynnwys system rhannu gwybodaeth wedi ei symleiddio rhwng darparwyr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

2. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc; a

 

3. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y maes hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

8

16

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu fod gan y toriadau termau real i'r gyllideb iechyd botensial i lesteirio gallu Byrddau Iechyd Lleol Cymru i gyflawni gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

 

2. Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl.

 

3. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc;

4. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y maes hwn;a

 

5. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

4

20

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


12/03/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.59

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5450 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a fforddiadwy yn allweddol i alluogi pobl ifanc i gael gafael ar waith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau.

 

2. Yn gresynu bod fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr sylweddol i weithwyr rhan-amser ac i ddewisiadau ôl-16 pobl ifanc.

 

3. Yn croesawu'r camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc ond yn gresynu bod amrywioldeb sylweddol mewn consesiynau yn arwain at loteri cod post o ran trafnidiaeth fforddiadwy i deithwyr ifanc.

 

4. Yn cydnabod cyflawniadau cynlluniau trafnidiaeth gymunedol gan gynnwys Bwcabus a Grass Routes o ran darparu trafnidiaeth hygyrch a hyblyg i gymunedau lleol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gyflwyno cynllun teithio rhatach cenedlaethol i bobl ifanc drwy gyfradd ‘teithwyr ifanc’ newydd i bobl ifanc 16-18 oed a myfyrwyr;

 

b) archwilio dichonoldeb tocyn tymor i weithwyr rhan-amser;

 

c) archwilio'r potensial i ymestyn cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fel Bwcabus a Grass Routes mewn ardaloedd gwledig; a

 

d) archwilio ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith carbon isel o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


19/02/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.53

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5439 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

 

2. Yn croesawu'r camau gweithredu cadarnhaol sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU gan gynnwys buddsoddi £1 biliwn mewn gofal plant i gynyddu addysg gynnar am ddim i bob plentyn tair a phedair oed a'i ymestyn i blant dwy oed o deuluoedd ar incwm isel, cyflwyno gofal plant di-dreth i deuluoedd sy'n gweithio a hawliau newydd ar rannu cyfnodau absenoldeb rhieni.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu'r system o hawl gofal plant cyn-ysgol yng ngoleuni’r ddarpariaeth well yn Lloegr;

 

b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar;

 

c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer plant 3-4 oed;

 

d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y gwyliau;

 

e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal plant yng Nghymru yng ngoleuni datblygiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU; ac

 

f) cyflwyno un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar-lein i helpu rhieni newydd gyda gwybodaeth am wasanaethau gofal plant a hawliau a sut i fanteisio arnynt.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘tlodi plant a’ a rhoi yn ei le ‘helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i weithredu ynghylch credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r etholiad cyffredinol, yn mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar deuluoedd sydd â’r angen mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn Cadarn wedi’i dinistrio yn Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

10

17

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Ni chynigwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le ‘asesu’r system hawl i ofal plant cyn-ysgol’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Yn is-bwynt 3e), dileu popeth ar ôl ‘yng Nghymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu is-bwynt 3f).

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gan fod gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5439 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

 

2. Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i weithredu ynghylch credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r etholiad cyffredinol, yn mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar deuluoedd sydd â’r angen mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn Cadarn wedi’i dinistrio yn Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) asesu’r system hawl i ofal plant cyn-ysgol;

 

b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar;

 

c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer plant 3-4 oed;

 

d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y gwyliau; ac

 

e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal plant yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


30/01/2014 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.51

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5417 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi canfyddiadau'r Cynllun Bwyd Ysgol y byddai prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yn arwain at welliannau cadarnhaol o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chydlyniant cymdeithasol ac yn helpu teuluoedd gyda chostau byw.

 

2. Yn nodi mai 21% yn unig o fabanod yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael pryd bwyd ysgol am ddim a thua 24% yn unig o ddisgyblion oed cynradd yn 2012-13 a gymerodd frecwast ysgol am ddim.

 

3. Yn nodi y bydd Cymru yn cael dros £62 miliwn o gyllid refeniw canlyniadol Barnett ar gyfer 2014-16 a thros £4 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2014-15 yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim i bob disgybl oed babanod yn Lloegr.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol Barnett i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol i fabanod yng Nghymru, er mwyn i bob plentyn bach gael pryd bwyd ysgol poeth, iach i hybu iechyd, addysg a lles disgyblion.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Cynllun Bwyd Ysgol' a rhoi yn ei le: ‘bod plant sy’n bwyta bwyd maethlon yn dod ymlaen yn well yn yr ysgol’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘refeniw canlyniadol Barnett’ a rhoi yn ei le: ‘yn y ffordd fwyaf effeithiol a sicr o wella safonau a lles ac i gyhoeddi rhaglen o’i bwriadau yng nghyswllt pob darpariaeth ar gyfer bwyd ysgol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


12/12/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5387 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod rôl bwysig Swyddfa Archwilio Cymru o ran:

a) darparu gwaith craffu o safon sy’n annibynnol a chynhwysfawr ar weithgarwch a gwariant y Llywodraeth;

b) cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac atebol;

c) rhannu arfer da a nodi gwelliannau i’r broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus; a

d) helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.

2. Yn nodi canfyddiadau adroddiadau olynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n amlygu methiannau sylweddol o ran trefniadau llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys AWEMA; Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; Gwesty River Lodge; Gofal Heb ei Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.

3. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, penderfyniad y Gweinidog i ddiddymu'r corff hwn a dychwelyd arian Ewropeaidd i WEFO, a'r effaith ddilynol ar nifer o brosiectau adfywio sy'n ceisio cyllid gan CBCA.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyllid allanol i adfer hyder cyhoeddus a hyder buddsoddwyr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoleiddio cyllid Llywodraeth Cymru;

b) cyhoeddi’r gyfundrefn monitro sydd yn ei lle o ran ei pholisi rheoli grantiau ac adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei chanlyniadau; a

c) datblygu gweithdrefn gadarn a thryloyw i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â methiannau sylweddol a phenodol ym mholisi Llywodraeth Cymru a amlygwyd gan adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

48

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt 1c) ar ôl ‘cyhoeddus’ rhoi ‘gan gynnwys drwy gyfrwng gwaith ei Chyfnewidfa Arfer Da’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus allweddol’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

32

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 4a) a rhoi yn ei le:

adolygu’r cyllid a ddarperir ganddi i gyrff cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus ei fod yn cael ei reoli, ei fonitro a’i werthuso’n effeithiol;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

32

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt 4c) dileu ‘ym mholisi Llywodraeth Cymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

32

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cydweithio rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ac yn nodi y gallai hyn wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu gwaith.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5387 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod rôl bwysig Swyddfa Archwilio Cymru o ran:

a) darparu gwaith craffu o safon sy’n annibynnol a chynhwysfawr ar weithgarwch a gwariant y Llywodraeth;

b) cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac atebol;

c) rhannu arfer da a nodi gwelliannau i’r broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys drwy gyfrwng gwaith ei Chyfnewidfa Arfer Da; a

d) helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.

2. Yn nodi canfyddiadau adroddiadau olynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n amlygu methiannau sylweddol o ran trefniadau llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys AWEMA; Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; Gwesty River Lodge; Gofal Heb ei Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.

3. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, penderfyniad y Gweinidog i ddiddymu'r corff hwn a dychwelyd arian Ewropeaidd i WEFO, a'r effaith ddilynol ar nifer o brosiectau adfywio sy'n ceisio cyllid gan CBCA.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyllid allanol i adfer hyder cyhoeddus a hyder buddsoddwyr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoleiddio cyllid Llywodraeth Cymru;

b) cyhoeddi’r gyfundrefn monitro sydd yn ei lle o ran ei pholisi rheoli grantiau ac adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei chanlyniadau; a

c) datblygu gweithdrefn gadarn a thryloyw i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â methiannau sylweddol a phenodol ym mholisi Llywodraeth Cymru a amlygwyd gan adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.

5. Yn croesawu’r cydweithio rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ac yn nodi y gallai hyn wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu gwaith.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


14/11/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5354 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y sector busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 73% o'r holl gyflogaeth mewn ardaloedd gwledig a bod mentrau bach a chanolig yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf economaidd cynaliadwy ardaloedd gwledig, o ran ysgogi arloesi a datblygu a helpu i fynd i'r afael â heriau allweddol diweithdra, mudo o'r wlad i'r dref a thlodi.

2. Yn nodi bod diffyg mynediad i gyllid yn amharu ar rôl bosibl busnesau bach a chanolig mewn datblygu economaidd gwledig.

3. Yn nodi'r heriau penodol o ran y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau mewn busnesau bach a chanolig.

4. Yn nodi bod y gagendor digidol o ran band-eang a signalau ffonau symudol yn rhwystro cystadleurwydd a hygyrchedd busnesau mewn ardaloedd gwledig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio strwythur banc cymunedol i gynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig, ac i weithio gydag undeb credyd i gynyddu benthyca i fusnesau;

b) gweithio gyda busnesau yn y sectorau amaethyddol, ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i nodi ffyrdd o oresgyn rhwystrau i gynyddu'r cyflenwad o brentisiaethau gwledig;

c) gwneud mynediad cyffredinol i fand-eang yn rhwymedigaeth i ddarparwyr a gweithio gydag Ofcom a gweithredwyr rhwydwaith i ymchwilio i rannu darpariaeth seilwaith mewn ardaloedd gwledig i sicrhau cymaint o ddarpariaeth â phosibl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

‘ac yn nodi anallu Cyllid Cymru i gynnig cyllid i fusnesau bach a chanolig ar gyfraddau cystadleuol’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

‘ac yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd drwy gytundeb cyllideb 2013/14 ar brentisiaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at yr effaith negyddol y mae cam-werthu cynnyrch gwarchod rhag risgiau cyfraddau llog gan fanciau’r stryd fawr wedi’i chael ar yr economi wledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymhellach y pwyntiau a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch prentisiaethau mewn ardaloedd gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod cost tanwydd mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig, ac yn gresynu nad oedd cais Llywodraeth y DU i ehangu’r Ad-daliad Tanwydd Gwledig yn cynnwys unrhyw ardaloedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

17

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod seilwaith trafnidiaeth wledig effeithiol yn allweddol ar gyfer cymunedau gwledig ac yn hanfodol ar gyfer ysgogi datblygiadau economaidd a mynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod baich ardrethi busnes ar fusnesau bach a chanolig gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mwy o ryddhad ardrethi busnes i fusnesau bach ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

‘edrych ar beth yw manteision sefydlu banc busnes hyd braich, di-ddifidend, sy’n eiddo cyhoeddus, i fusnesau bach a chanolig gwledig, i gynnig cyllid ar gyfraddau cystadleuol i fusnesau bach a chanolig Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt 5c.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gan fod gwelliant 9 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 10 ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5354 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y sector busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 73% o'r holl gyflogaeth mewn ardaloedd gwledig a bod mentrau bach a chanolig yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf economaidd cynaliadwy ardaloedd gwledig, o ran ysgogi arloesi a datblygu a helpu i fynd i'r afael â heriau allweddol diweithdra, mudo o'r wlad i'r dref a thlodi.

2. Yn nodi bod diffyg mynediad i gyllid yn amharu ar rôl bosibl busnesau bach a chanolig mewn datblygu economaidd gwledig.

3. Yn nodi'r heriau penodol o ran y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau mewn busnesau bach a chanolig ac yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd drwy gytundeb cyllideb 2013/14 ar brentisiaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

4. Yn gresynu at yr effaith negyddol y mae cam-werthu cynnyrch gwarchod rhag risgiau cyfraddau llog gan fanciau’r stryd fawr wedi’i chael ar yr economi wledig.

5. Yn nodi ymhellach y pwyntiau a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch prentisiaethau mewn ardaloedd gwledig.

6. Yn credu bod cost tanwydd mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig, ac yn gresynu nad oedd cais Llywodraeth y DU i ehangu’r Ad-daliad Tanwydd Gwledig yn cynnwys unrhyw ardaloedd yng Nghymru.

7. Yn nodi bod seilwaith trafnidiaeth wledig effeithiol yn allweddol ar gyfer cymunedau gwledig ac yn hanfodol ar gyfer ysgogi datblygiadau economaidd a mynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig.

8. Yn nodi bod y gagendor digidol o ran band-eang a signalau ffonau symudol yn rhwystro cystadleurwydd a hygyrchedd busnesau mewn ardaloedd gwledig.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio strwythur banc cymunedol i gynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig, ac i weithio gydag undeb credyd i gynyddu benthyca i fusnesau;

b) edrych ar beth yw manteision sefydlu banc busnes hyd braich, di-ddifidend, sy’n eiddo cyhoeddus, i fusnesau bach a chanolig gwledig, i gynnig cyllid ar gyfraddau cystadleuol i fusnesau bach a chanolig Cymru.

c) gweithio gyda busnesau yn y sectorau amaethyddol, ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i nodi ffyrdd o oresgyn rhwystrau i gynyddu'r cyflenwad o brentisiaethau gwledig;

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


03/10/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5313 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder:

a) bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau gwan posibl, a'r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y DU; a

b) bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli eu signal symudol neu ddirywiad yn eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth iddynt.

2. Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:

a) bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu gwaith TGCh;

b) bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband services in Wales’, yn mynegi pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau araf band eang, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau lleol ar draul yr economi leol;

c) bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; a

d) bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd gwledig.

3. Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n wynebu'r un problemau;

b) archwilio’r system gynllunio i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;

c) archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu ledled y byd drwy fynediad gwell i wasanaethau digidol; a

d) ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

37

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu, ond ei fod yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

y cynnydd o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth band eang yn wan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 3a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

sicrhau, yn ystod y broses o gyflwyno'r rhaglen Cyflymu Cymru, y bydd BT yn sicrhau bod pobl sy’n byw mewn eiddo nad yw’n gymwys i’w gysylltu yn cael gwybod hynny mewn modd amserol;   

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5313 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder:

a) bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau gwan posibl, a'r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y DU; a

b) bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli eu signal symudol neu ddirywiad yn eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth iddynt.

2. Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:

a) bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu gwaith TGCh;

b) bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband services in Wales’, yn mynegi pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau araf band eang, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau lleol ar draul yr economi leol;

c) bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu, ond ei fod yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;  

d) bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang;

e) bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd gwledig; ac

f) y cynnydd o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth band eang yn wan.

3. Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n wynebu'r un problemau;

b) archwilio’r system gynllunio i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;

c) archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu ledled y byd drwy fynediad gwell i wasanaethau digidol; a

d) ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


26/09/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5306 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini o gefndiroedd mwy breintiedig.

2. Yn nodi’r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, sydd:

a) yn dangos bod y cyllid yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella hyder a phresenoldeb; a

b) yn archwilio ffyrdd o wella’r grant yn y dyfodol.

3. Yn nodi bod y cyllid ar gyfer y Premiwm Disgyblion yn Lloegr wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall, o £488 fesul disgybl cymwys yn 2011-12 i £1300 yn 2014-15 o’i gymharu â £450 fesul disgybl cymwys yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynyddu’n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion fesul disgybl yn y gyllideb nesaf;

b) archwilio’r manteision o ehangu’r Grant Amddifadedd Disgyblion i ddisgyblion o dan bump oed;

c) sicrhau bod y canllawiau ar y grant yn glir ac yn gryno ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth Sutton ar gyfer Cymru;

d) darparu sicrwydd dros ddyfodol y Grant Amddifadedd Disgyblion a gwybodaeth amserol am ddyraniadau unigol i ysgolion;

e) annog ysgolion i gael polisi clir ar gyfer monitro a gwerthuso cadarn gan sicrhau nad yw’r broses yn or-fiwrocrataidd; ac

f) sefydlu fformiwla gyllido decach sy’n sicrhau bod y cyllid yn adlewyrchu’n gywir nifer y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a gaiff eu cefnogi gan gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

9

40

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1  - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


13/06/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.

2. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog, oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

3. Yn gresynu bod nifer y bobl ar leoliadau prentisiaeth yng Nghymru wedi lleihau mwy na 25% rhwng 2006/7 a 2010/11.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i brentisiaethau drwy:

a) datblygu rhaglen cyswllt ag ysgolion i gynyddu amlygrwydd prentisiaethau o ran darparu cyngor gyrfaol i bobl ifanc;

b) sefydlu cynllun Llysgenhadon Prentisiaeth i hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol;

c) gwella gwelededd cystadlaethau i ddathlu rhagoriaeth mewn sgiliau;

d) treialu proses fel un UCAS o wneud cais unigol a system glirio i wella cydraddoldeb ymagwedd rhwng llwybrau gyrfa; ac

e) creu un system ar gyfer gwybodaeth, gwneud cais a chymorth i symleiddio'r broses o ddarparu gwybodaeth a lleihau cyfraddau gadael ac ymddieithrio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith, yn ogystal ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.

2. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog, oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

3. Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

4. Yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith, yn ogystal ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


02/05/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5228 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod yn rhaid i gymorth i safonau ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol ganolbwyntio ar alluogi pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial a rhoi'r pwer i ysgolion ysgogi cynnydd mewn safonau.

2. Yn nodi bod dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn pwysleisio y gellir codi safonau mewn ysgolion ar sail disgyblion unigol pan fydd ysgolion yn canolbwyntio ar drywydd eu disgyblion gymaint ag ar eu safon gyrhaeddiad absoliwt, gyda'r defnydd priodol o werthuso a monitro mewnol.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn cyflwyno adroddiad ar ba mor effeithiol y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion â chefndir mwy cefnog.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu rhaglen monitro disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i dargedu ymdrechion at y disgyblion hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial;

b) cynyddu'n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion a sicrhau bod ysgolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i sut y mae'r cyllid hwn wedi'i wario, i annog atebolrwydd, targedu effeithiol a rhannu arfer gorau; ac

c) diwygio'r system ar gyfer bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol o ran perfformiad disgyblion unigol, gan gynnwys ailstrwythuro'r system i ddangos mor dda y mae ysgolion yn cyflawni wrth gynorthwyo disgyblion i gyrraedd eu potensial eu hunain.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘disgybl' cynnwys, ‘ni waeth beth fo'i gefndir na'i allu,’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1 ychwanegu ‘a chyrff addysgol’ ar ôl ‘rhoi pwer i ysgolion'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 5, 6, 7, 8, 9 a 10 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5228 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod yn rhaid i gymorth i safonau ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol ganolbwyntio ar alluogi pob disgybl ni waeth beth fo'i gefndir na'i allu, i gyrraedd ei lawn botensial a rhoi'r pwer i ysgolion a chyrff addysgol ysgogi cynnydd mewn safonau.

2. Yn nodi bod dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn pwysleisio y gellir codi safonau mewn ysgolion ar sail disgyblion unigol pan fydd ysgolion yn canolbwyntio ar drywydd eu disgyblion gymaint ag ar eu safon gyrhaeddiad absoliwt, gyda'r defnydd priodol o werthuso a monitro mewnol.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn cyflwyno adroddiad ar ba mor effeithiol y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion â chefndir mwy cefnog.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

4

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


18/04/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5204 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod y system gyllido ar gyfer gofal hirdymor yn y DU wedi bod yn annigonol, yn annheg ac yn anghynaliadwy yn rhy hir ac yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ei diwygio.

2. Yn cydnabod na fu erioed cymaint o frys o ran yr angen i sicrhau system gynaliadwy i dalu am ofal yng Nghymru, gan nodi gyda phryder:

a) y bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar dros wyth o bob deg o bobl 65 oed neu hŷn yn ddiweddarach yn eu bywydau ac y rhagamcanir y bydd nifer y bobl yng Nghymru sy'n 65 oed a hŷn wedi dyblu erbyn 2035;

b) yr amcangyfrifir bod dros 17,000 o bobl â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu 31 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf;

c) bod un o bob tri o bobl, yn ôl ymchwil ar ddefnyddwyr gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, yn credu bod ‘gofal i’w gael am ddim fel y mae’r GIG’ ac nad oes diben cynllunio ar gyfer costau gofal hirdymor yn y dyfodol;

d) y bydd un o bob deg o deuluoedd yn wynebu costau gofal o £100,000 neu fwy yn ystod eu hoes, fel yr amlygwyd gan Gomisiwn Dilnot.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r egwyddorion allweddol a fydd yn sail i system newydd o gyllido gofal yng Nghymru a chadarnhau'r cyllid canlyniadol Barnett a fydd yn deillio o'r cyhoeddiad ar gyllido gofal cymdeithasol yn Adolygiad o Wariant 2013.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio argymhellion Comisiwn Dilnot fel sail ar gyfer diwygio cyllid gofal cymdeithasol yng Nghymru ar frys, gan gynnwys:

a) sicrhau bod pobl wedi'u diogelu rhag costau uchel eu gofal cymdeithasol;

b) cyflwyno cynllun â chost wedi'i chapio ac ymestyn trothwy'r profion modd;

c) ymestyn y cynllun taliadau gohiriedig i bob un y mae'n ofynnol iddo dalu am ofal preswyl;

d) cyflwyno Fframwaith Cymhwysedd Cenedlaethol i wella cysondeb y cymorth;

e) sicrhau bod y rhai a ddaw’n oedolion ac sydd ag angen gofal a chymorth eisoes yn gymwys i gael cymorth am ddim gan y wladwriaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal;

f) gwella argaeledd a hygyrchedd gwybodaeth a chymorth i bobl ddeall eu hopsiynau a pharatoi a chynllunio am gostau gofal.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod methiant Llywodraethau dilynol y Cynulliad o ran darparu cymorth teg a fforddiadwy i bobl agored i niwed ag anghenion gofal cymdeithasol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôlyn rhy hir’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Sefydlu atebion interim tecach i ffioedd gofal cymdeithasol, sy’n adlewyrchu anghenion Cymru, o fewn yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.  

b) Sicrhau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer cynnal teuluoedd a gofalwyr anffurfiol eraill yn y tymor hir. 

c) Sicrhau bod modd cyllido gofal cymdeithasol yn gynaliadwy, ac yn credu y byddai sefydlu fformiwla cyllido gyda Llywodraeth y DU sy’n adlewyrchu anghenion Cymru yn helpu i ddarparu’r adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.’   

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


14/03/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5188 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder nad yw cleifion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y triniaethau a'r meddyginiaethau mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd ar gael i gleifion eraill ledled y DU;

2. Yn croesawu’r ffaith bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru wedi cael ei chreu, ond yn gresynu wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-2013;

3. Yn nodi bod y diwydiant fferyllol wedi buddsoddi £4.4 biliwn mewn gwaith ymchwil a datblygu yn y DU yn 2009, sydd yn fwy nag unrhyw sector diwydiant arall, ac yn credu bod GIG Cymru angen amgylchedd sy'n barod i dderbyn arloesedd er mwyn cystadlu'n effeithiol am dreialon clinigol ar lefel fyd-eang;

4. Yn credu y dylid ystyried gwariant ar feddyginiaethau modern yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost. Felly, mae'n gresynu mai dim ond 0.5% o gyfanswm gwariant y GIG yng Nghymru yn 2011 a wariwyd ar feddyginiaethau newydd a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol; a

5. Yn nodi y rhagwelir y bydd Cymru yn sicrhau arbedion o ryw £186 miliwn rhwng 2011 a 2015 oherwydd Colli Hawliau Unig Gynhyrchydd (LOE) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi rhywfaint o’r arian hwn yn y Gronfa Technolegau Iechyd, i gefnogi'r ymgysylltiad â Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) fel y gall mwy o gleifion yng Nghymru fanteisio ar y triniaethau a’r meddyginiaethau diweddaraf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôlyng Nghymru’, rhoi ‘, yn enwedig rhai gyda chlefydau prin,’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôlgresynua  rhoi yn ei le:

a) wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013;

b) nad yw’r Gronfa yn mynd i’r afael â hygyrchedd gwael triniaethau canser modern i gleifion yng Nghymru wrth gymharu â rhannau eraill o’r DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru yn ehangu mynediad at driniaethau canser modern ar gyfer cleifion yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod modd peryglu mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau arloesol yn sgîl toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb GIG Cymru nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio gan y Cynulliad, a chan na dderbyniwyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


21/02/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor hir.

2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’ Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2012-13.

3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys:

a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag;

b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo;

c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol;

d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i awdurdodau lleol;

e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir;

f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac

g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto, yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

17

46

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


10/01/2013 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.55

 

NDM5130 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi trydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36


22/11/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5097 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sy’n golygu bod modd plismona’r Cod Gweinidogol yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

 

‘, gydag amserlen glir ar gyfer ymgynghori a gweithredu

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio gan y Cynulliad, a chan na dderbyniwyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

 


08/11/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.17

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5085 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) nad yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ar 31 Hydref 2012, wedi cytuno ar gyllideb gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13;

 

b) nad yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu paratoi cynlluniau gwasanaeth priodol oherwydd diffyg eglurder ariannol; ac

 

c) am y pedwar mis diwethaf yn olynol, nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflawni ei darged Cymru gyfan lle mae ambiwlansys yn ymateb o fewn wyth munud i 65% o alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol).

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cytuno ar gyllideb gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 fel mater o frys;

 

b) amlinellu rôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ad-drefnu’r gwasanaeth a’r effaith y gallai’r ad-drefnu hwnnw ei chael ar eu cyllideb a’u perfformiad;

 

c) asesu ar fyrder y cymorth sydd ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel y gall gyrraedd ei darged amser ymateb o 65% y cytunwyd arno; a

 

d) adolygu’r trefniadau ar fyrder lle mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sef pwyllgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd Lleol, yn gorfod cytuno ar gyllideb ar gyfer ymddiriedolaeth arall.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

31

41

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1.     

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

20

41

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 1a, dileuyw’ a rhoioeddyn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

21

40

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 1b, dileuyw’ a rhoioeddyn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2a.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

0

41

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gan fod gwelliant 4 wedi’i gynnig, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le:

 

Galw ar y Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb dros osod cyllideb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: ‘parhau i asesu’r trefniadau rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu ac ariannu cadarn yn dal ar waith.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

19

40

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r rôl hanfodol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei chwarae wrth gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i achosion brys yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

0

41

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gynllunio gofal brys a darparu digon o gyllid uniongyrchol i’r gwasanaethau hynny, er mwyn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflawni ei amcanion allweddol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu bod GIG Cymru yn wynebu’r toriadau iechyd termau real mwyaf o holl wledydd y DU, ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

6

25

41

Gwrthodwyd gwelliant 10.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5085 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) amlinellu rôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ad-drefnu’r gwasanaeth a’r effaith y gallai’r ad-drefnu hwnnw ei chael ar eu cyllideb a’u perfformiad;

 

b) asesu ar fyrder y cymorth sydd ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel y gall gyrraedd ei darged amser ymateb o 65% y cytunwyd arno; a

 

c) parhau i asesu’r trefniadau rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu ac ariannu cadarn yn dal ar waith.

 

2. Yn nodi’r rôl hanfodol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei chwarae wrth gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i achosion brys yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

10

41

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


27/09/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:21

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5048 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd didueddrwydd gwleidyddol wrth reoleiddio cymwysterau ac arholiadau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5048 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru.

 

Yn nodi pwysigrwydd didueddrwydd gwleidyddol wrth reoleiddio cymwysterau ac arholiadau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


19/07/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.06

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5043

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyder yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd y cynnig.


21/06/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.28.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5016 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu:

 

a) nad oes lle i fod yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson;

 

d) y dylai pob menyw yng Nghymru, ni waeth ble mae hi'n byw ac ni waeth beth yw ei chefndir cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel;

 

e) na fu gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol er 1999; a

 

f) bod yr ystadegau cyfredol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth yn annerbyniol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;

 

b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; ac

 

c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

41

45

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwyntiau 1e ac 1f.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

7

15

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu unrhyw ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

33

45

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5016 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu:

 

a) nad oes lle i fod yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson; a

 

d) y dylai pob menyw yng Nghymru, ni waeth ble mae hi'n byw ac ni waeth beth yw ei chefndir cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;

 

b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr;

 

c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; a

 

d) cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


31/05/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17:01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5001 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd ei Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser yn:

 

a) galluogi cynifer o bobl â phosibl i gael triniaeth canser mor agos at eu cartrefi â phosibl;

 

b) darparu ar gyfer cymorth i gleifion canser sy’n ei chael yn anodd teithio i’w canolfan driniaeth; ac

 

c) darparu ar gyfer cyngor ariannol ac ymarferol i ddioddefwyr canser.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

22

57

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


03/05/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.51.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4973  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

41

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

Yn annog rheolaeth ariannol ofalus ar ran pob awdurdod lleol i’w galluogi i rewi’r dreth gyngor

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd.

 

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol er mwyn gallu rhewi’r dreth gyngor ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


22/03/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.35.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4947 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth yr ystadegau newydd sy’n dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi gostwng o 79 y cant i 68.4 y cant o gyfartaledd yr UE;

 

2. Yn nodi bod yr ystadegau hynny wedi cael eu mesur yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd yr UE; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth datblygu economaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ar fyrder er mwyn sicrhau, pe byddai Cymru’n gymwys ar gyfer cylch ychwanegol o gyllid, y gall prosiectau sy’n canolbwyntio ar ysgogi twf economaidd ddechrau ar unwaith.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

33

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dilewch bwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru law yn llaw â’i phartneriaid yn paratoi strategaethau a hefyd brosiectau posibl i’w darparu yng nghyfnod Rhaglen 2014-2019 y Cronfeydd Strwythurol, sydd ar ein gwarthaf, hynny ynghyd â’r gyfres o weithgareddau sydd wrthi’n cael eu cynnal i helpu adfywiad economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd a’r Dwyrain.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

17

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod sector preifat cryf yn hanfodol er mwyn hybu twf economaidd yn rhannau tlotaf Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4947 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth yr ystadegau newydd sy’n dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi gostwng o 79 y cant i 68.4 y cant o gyfartaledd yr UE;

 

2. Yn nodi bod yr ystadegau hynny wedi cael eu mesur yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd yr UE; a

 

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru law yn llaw â’i phartneriaid yn paratoi strategaethau a hefyd brosiectau posibl i’w darparu yng nghyfnod Rhaglen 2014-2019 y Cronfeydd Strwythurol, sydd ar ein gwarthaf, hynny ynghyd â’r gyfres o weithgareddau sydd wrthi’n cael eu cynnal i helpu adfywiad economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd a’r Dwyrain.

 

4. Yn cydnabod bod sector preifat cryf yn hanfodol er mwyn hybu twf economaidd yn rhannau tlotaf Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


15/03/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:54.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw am:

 

a) cyflwyno cynllun gwarantu blaendal yng Nghymru i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;

 

b) defnyddio dulliau ariannu amgen yn weithredol fel bondiau ac adeiladu cartrefi newydd ar lefelau rhent gwahanol fel ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg presennol o ran tai fforddiadwy;

 

c) rhaglen cartrefi gwag ledled Cymru i gynyddu nifer yr eiddo gwag sy’n dod yn ôl i gael eu defnyddio fel eiddo preswyl gan roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i ddod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio; a

 

d) rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol i bennu cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

52

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

1. Yn nodi:

 

a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;

 

b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy;

 

c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag;

 

d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac

 

e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl.

 

2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

4

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

4

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;

 

b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy;

 

c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag;

 

d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac

 

e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl.

 

2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig.

 

3. Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

16

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


22/02/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:50.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4920 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) adroddiad "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA" yn 2002;

 

b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004;

 

c) bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a

 

d) adroddiad “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)” yn 2012; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl ei rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a

 

b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

52

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

“1. Yn nodi methiant Gweinidogion i fynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd gan:

 

a) adroddiad 2002 "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA";

 

b) adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects”;

 

c) Cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) a ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru yn 2007 i fynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r sefydliad; a

 

2. Yn nodi ymhellach adroddiad 2012 “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA); ac

 

ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad oedd amseru cyhoeddi adroddiad 2012:

 

a) wedi rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad allu craffu arno ar unwaith mewn Cyfarfod Llawn; a

 

b) wedi rhoi cyfle i’r Gweinidog sy’n gyfrifol roi datganiad llafar brys.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4920 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) adroddiad "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA" yn 2002;

 

b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004;

 

c) bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a

 

d) adroddiad “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)” yn 2012; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl ei rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a

 

b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol.

 

3. Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly,  gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


19/01/2012 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.02

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4894 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu’r £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer band eang y genhedlaeth nesaf a fydd o fudd i holl ardaloedd Cymru;

 

2. Yn croesawu’r cyllid pellach ar gyfer band eang yng Nghaerdydd a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref y Canghellor; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r arian hwn i roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r mannau gwan ar gyfer derbyn band eang.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

51

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi pwynt 1 newydd yn eu lle:

 

Yn nodi’r dyraniadau diweddar o gyllid cyhoeddus ar gyfer darparu band eang.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

17

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ei thrafodaethau gyda BT Openworld ar gyfer cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4894 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r dyraniadau diweddar o gyllid cyhoeddus ar gyfer darparu band eang.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


08/12/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4877 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a. pwysigrwydd manwerthu i economi Cymru;

 

b. gwerth cymdeithasol stryd fawr fywiog i gymunedau lleol; ac

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y stryd fawr yng Nghymru drwy:

 

a. Rhoi sylw i anghenion penodol manwerthwyr yn ei hadolygiad o ardrethi busnes a chynlluniau rhyddhad;

 

b. datblygu arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys cyngor ynghylch yr arfer gorau ar gyfer rheoli canol trefi; ac

 

c. cydnabod effaith datblygiadau ar gyrion trefi ar y stryd fawr yn ei hadolygiad o’r system gynllunio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

40

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2 a).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

24

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cyhoeddi strategaeth manwerthu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

29

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4877 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a. pwysigrwydd manwerthu i economi Cymru;

 

b. gwerth cymdeithasol stryd fawr fywiog i gymunedau lleol; ac

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y stryd fawr yng Nghymru drwy:

 

a. datblygu arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys cyngor ynghylch yr arfer gorau ar gyfer rheoli canol trefi; ac

 

b. cydnabod effaith datblygiadau ar gyrion trefi ar y stryd fawr yn ei hadolygiad o’r system gynllunio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

8

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


24/11/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4859 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod:

 

a) oddeutu 26,000 o gartrefi gwag preifat yng Nghymru ar hyn o bryd;

 

b) cartrefi gwag yn achosi melltith gymdeithasol ac amgylcheddol ar gymunedau lleol;

 

c) mwy o alw am dai cymdeithasol yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth cartrefi gwag sy’n cynnwys:

 

a) cymorth i gynghorau a chymdeithasau tai ddefnyddio cartrefi gwag fel tai cymdeithasol;

 

b) caniatáu i gynghorau gael mwy o hyblygrwydd i osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbedigol ar gartrefi sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir er mwyn annog perchnogion i’w hailddefnyddio ac i wneud iawn i gymunedau am y felltith maent yn ei hachosi’n lleol;

 

c) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i leihau cyfradd TAW ar waith atgyweirio a gwella ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli;

 

d) archwilio'r posibilrwydd o ddarparu benthyciadau rhad i berchnogion i’w hannog i ailddatblygu cartrefi gwag fel tai fforddiadwy i’w gosod ar rent.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

12

10

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


02/11/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4840 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol er mwyn helpu i godi CMC cymharol rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd;

 

2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y rhaglenni sgiliau lefel uwch ac arloesedd, megis y cynllun POWIS, at godi CMC;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu POWIS gyda nodau ac amcanion tebyg.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

40

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o’i defnydd o arian yr UE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

5

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn nodi â phryder y gostyngiad yn CMC Gorllewin Cymru a’r Cymoedd o 66.8 y cant o gyfartaledd yr UE yn 2000 i 64.4 y cant (y ffigur diweddaraf sydd ar gael) yn 2008.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn cydnabod bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r sector preifat i feithrin twf cynaliadwy yn CMC y rhanbarthau hyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn cydnabod bod rhaid i gynlluniau a ariannir gan yr UE symud oddi wrth y ‘rheoliadau ticio blychau’ a chanolbwyntio ar ganlyniadau hyfyw.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4840 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o’i defnydd o arian yr UE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

 

2. Yn cydnabod bod rhaid i gynlluniau a ariannir gan yr UE symud oddi wrth y ‘rheoliadau ticio blychau’ a chanolbwyntio ar ganlyniadau hyfyw.

 

3. Yn cydnabod bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r sector preifat i feithrin twf cynaliadwy yn CMC y rhanbarthau hyn.

 

4. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y rhaglenni sgiliau lefel uwch ac arloesedd, megis y cynllun POWIS, at godi CMC;

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu POWIS gyda nodau ac amcanion tebyg.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


13/10/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4824 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i:

 

i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael ar gael i bawb yng Nghymru ni waeth pa fath o ganser sydd ganddynt na lle maent yn byw;  

 

ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer canfod canser yn gynharach yng Nghymru.

 

iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael ei darparu i’r rheini sy’n byw â chanser a’u teuluoedd o’r funud maent yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu triniaeth ac ar ei hôl yn ogystal ag ar ddiwedd bywyd;

 

b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac

 

c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

38

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:

 

Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau b.) ac c.) a rhoi yn eu lle:

 

sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

17

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4824 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i:

 

i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael ar gael i bawb yng Nghymru ni waeth pa fath o ganser sydd ganddynt na lle maent yn byw;  

 

ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer canfod canser yn gynharach yng Nghymru.

 

iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael ei darparu i’r rheini sy’n byw â chanser a’u teuluoedd o’r funud maent yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu triniaeth ac ar ei hôl yn ogystal ag ar ddiwedd bywyd; a

b) sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


29/09/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4811 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn canolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn y sector preifat.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

52

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Yn lleyn canolbwyntio ar gyfleoedd”, rhoiyn cynnwys cyfleoedd

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

17

57

 

Derbyniwyd gwelliant 1

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileuyn y sector preifat’ a rhoi yn ei le ‘yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

17

57

 

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru wedi gweld gostyngiad o 3.7% rhwng mis Mehefin 2010 a mis Mehefin 2011, y gostyngiad mwyaf yn y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

 

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

 

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai i helpu i gynyddu effaith Cronfa Swyddi Cymru a helpu i greu swyddi parhaol yn y sector preifat. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

45

57

 

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

5

0

57

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


14/07/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4788  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes er mwyn:

 

a) Osgoi sefyllfa lle mae gwneud gwelliannau i eiddo yn cynyddu ei werth ac felly’n golygu bod ardreth y busnes yn uwch;

 

b) Newid y rôl y dylai awdurdodau lleol ei chwarae o ran casglu a chadw ardrethi busnes, er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol;

 

c) Rhoi’r gorau i godiadau anferth mewn ardrethi busnes pan fo gwerthoedd yn cynyddu a chostau’n codi rhwng blynyddoedd fel sydd wedi digwydd i lawer o fusnesau gwely a brecwast yn ddiweddar;

 

d) Ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i helpu mwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai, mentrau cymdeithasol a siopau annibynnol;

 

e) Penderfynu a fyddai Cymru’n elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifo ardrethi busnes ag sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU.

 

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Rewi ardrethi busnes nes caiff argymhellion yr adolygiad hwn eu rhoi ar waith;

 

b) Amlinellu manylion ei chynlluniau i lunio cynllun cynhwysfawr i leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau bach; a

 

4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

48

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 o’r cynnig gwreiddiol a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd 2 a 3, a nodir isod.

 

2. Yn cydnabod bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.

 

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. 

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes a pharhau â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol i fusnesau bach wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.

 

Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)

 

Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le:

 

Dileu’r holl ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o £12000 neu lai a thapro ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12000 a £15000.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 3a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

  

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4788  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;

 

2. Yn cydnabod bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.

 

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.

 

4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


29/06/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

NDM4772 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy:

 

a) cyflwyno premiwm disgybl er mwyn targedu arian at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, gan helpu i gau'r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr;

 

b) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, a gaiff ei chyllido drwy gael gwared ar Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a thrwy wella prosesau cynllunio’r gweithlu;

 

c) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol;

 

d) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth briodol ar gyfer cyrff llywodraethu, ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer dalgylchoedd; ac

 

e) gwella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli’r partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

3

0

48

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

14

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Mynwy)

 

Dileu is-bwyntiau b) i e) a rhoi is-bwyntiau newydd yn eu lle:

 

Gweithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn fanwl ar gyfer gwella safonau llythrennedd a monitro canlyniadau’r cynlluniau hynny;

 

Darparu cwricwlwm cenedlaethol cyflawn i gynnwys amser ar gyfer chwaraeon, economeg y cartref a sgiliau bywyd; a

 

Datblygu cam canol mewn addysg.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

8

32

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt b), dileu popeth ar ôldatblygiad proffesiynol parhaus

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

14

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt d), dileuGorchymyn adolygiad annibynnol llawn’ a rhoiCynnal adolygiadyn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

43

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt e).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

14

51

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4772 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy:

 

a) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus;

 

b) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol;

 

c) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth briodol ar gyfer cyrff llywodraethu, ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer dalgylchoedd; ac

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


16/06/2011 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:

(a) Cyflwyno Parthau Menter, a

(b) Adeiladu ar gyhoeddiadCynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwydrwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

22

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.