Penderfyniadau

Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

16/03/2016 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru?

Dechreuodd yr eitem am 17.23

NDM6007 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.