Penderfyniadau
Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
09/02/2012 - Debate on the Health and Social Care Committee's Inquiry into Stroke Risk Reduction
Dechreuodd yr eitem am 16.01.
NDM4911 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Rhagfyr 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.