Penderfyniadau

NDM6104 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

29/09/2016 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6104 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

36

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.

(b) sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â'r rhaglen Cefnogi Pobl gan y gyllideb atal digartrefedd a'r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn, ac

(c) cydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw'n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i'r gwasanaethau statudol ac yn llwyfan ar gyfer ffynonellau ariannu eraill i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith ataliol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.