Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid Troseddol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

14/12/2016 - Legislative Consent Motion on the Criminal Finances Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.44

NDM6183 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.