Penderfyniadau
SL(5)045 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
01/02/2017 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017
Dechreuodd
yr eitem am 16.57
NDM6219 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
18/01/2017 - SL(5)045 - The Welsh Language Standards (No. 6) Regulations 2017
4.1a
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru.
4.1b
Nododd yr ohebiaeth gan Gymdeithas yr Iaith a gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch y safonau iaith.
4.1c
Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.