Penderfyniadau

NDM6507 - Dadl: Data - Cynyddu Agoredrwydd ac Argaeledd

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

27/09/2017 - Debate: Data - Increasing Openness and Availability

Dechreuodd yr eitem am 17.56

NDM6507 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.

2. Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.

4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o gasglu data ledled Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn yr esiampl a osodir gan Gyngor Sir Fynwy a reolir gan y Ceidwadwyr drwy gyhoeddi ei holl wariant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

8

27

47

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6507 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.

2. Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.

4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o gasglu data ledled Cymru.

6. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.

7. Yn credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.