Penderfyniadau
Dadl ar Araith y Frenhines - y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
25/06/2015 - Dadl ar Araith y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15
(i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn
digwydd ar ôl y ddadl.
NDM5792 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
2015/2016.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig yn
gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder ddychweliad y Bil Pwerau Ymchwilio,
ffurf newydd ar y siarter fusnesu, fel y'i gelwir, a gafodd ei rwystro'n
rheolaidd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod Llywodraeth Glymblaid y DU;
ac yn gwrthwynebu Llywodraeth y DU yn cael pwerau i fonitro data cyfathrebu
unigolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig
Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael
i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion
i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Gwelliant
5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod
cymal mwyafrif dwbl ym Mil Refferendwm yr UE a'r penderfyniad i atal pobl 16 a
17 oed rhag pleidleisio yn y refferendwm hwnnw.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
22 |
13 |
44 |
Gwrthodwyd Gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5792
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y
DU 2015/2016.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig
yn gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig
Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael
i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
4. Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno
cynigion i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
10 |
44 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
12/06/2014 - Dadl ar Araith y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor
Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer
2014/2015.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar gyfer Cymru, ym
Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith “cyd-gerdded”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
12 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg cynigion yn rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i symud ymlaen ag unrhyw feysydd datganoli
pellach a argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
26 |
17 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys
deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn parhau
i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cyhoeddiad yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar
ofal plant di-dreth a fydd yn golygu y bydd oddeutu 83,600 o deuluoedd yng
Nghymru yn cael budd o £2,000 oddi ar gost eu gofal plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch
gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn
cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol o achosi niwed
seicolegol i blentyn yn drosedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
21 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r diwygiadau pensiwn chwyldroadol a gynigiwyd gan Weinidog y
Democratiaid Rhyddfrydol Steve Webb sydd i’w cynnwys yn y Bil Pensiynau
Preifat, a fydd yn rhoi rhyddid a diogelwch i bobl wedi ymddeol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Draft Governance of National Parks (England)
& the Broads Bill yn cynnwys darpariaethau ar gyfer etholiadau uniongyrchol
ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr, yn dilyn ymgyrchu gan Aelod
Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwygiadau tebyg ar waith yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel yr amlinellir yn y
rhaglen ddeddfwriaethol, i adfer lles ariannol yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn
sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i bobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn
rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y lwfans personol i
£10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol
ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
21 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU ar gyfer 2014/2015.
2. Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm
a gynigir ar gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir
yn fecanwaith “cyd-gerdded”.
3. Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn
modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch
economaidd.
4. Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau
Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat
Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod
creulondeb sy’n debygol o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd.
5. Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu
ymhellach y lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym
maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i
gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
5 |
12 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
23/05/2013 - Debate on the Queen’s Speech
Dechreuodd yr
eitem am 15.24
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i),
penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn
digwydd ar ôl y ddadl.
NDM5245
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2013/2014.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu na chafodd Bil Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu argymhellion y
Comisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru, ei gynnwys yn y rhaglen
ddeddfwriaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
18 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r Bil Cymru drafft, a fydd yn diwygio etholiadau'r Cynulliad
Cenedlaethol ac a allai roi llwyfan i Lywodraeth y DU i roi unrhyw welliannau
gan Gomisiwn Silk (Rhan I) ar waith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, sy'n golygu y bydd hawl gan bob
elusen a busnes o fis Ebrill 2014 hawl i Lwfans Cyflogaeth gwerth £2,000, a
fydd yn help i dros 35,000 o fusnesau yng Nghymru gyflogi eu gweithiwr
cyflogedig cyntaf neu ehangu ar eu gweithlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r Bil Pensiynau, a fydd yn cyflwyno pensiwn y wladwriaeth un haen, a
fydd yn golygu newid sylweddol ac angenrheidiol a fydd yn gymorth i bobl gynilo
ar gyfer eu hymddeoliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
10 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5
- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r Bil Dadreoleiddio, a fydd yn help i leihau'r baich rheoleiddio
diangen a gormodol ar fusnesau, sefydliadau ac unigolion, i helpu twf ac arbed
arian ar gyfer y trethdalwr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
9 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r Bil Hawliau Defnyddiwr drafft, a fydd yn symleiddio ac yn
atgyfnerthu hawliau craidd y defnyddiwr, ac yn sicrhau bod gan ddefnyddwyr
hawliau cliriach yn ôl y gyfraith a bod busnesau yn trin eu cwsmeriaid yn deg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
10 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r Bil Gofal, a fydd yn diwygio cyllid gofal a chymorth yn Lloegr a fydd
yn sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu rhag costau uchel eu gofal cymdeithasol,
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r prif egwyddorion a fydd yn sail i
system ariannu gofal newydd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
11 |
29 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel y'i hamlinellwyd yn ei rhaglen
ddeddfwriaethol, i adeiladu economi lle y bydd pobl sy'n gweithio'n galed yn
cael eu gwobrwyo'n briodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
40 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r Bil Cymru drafft.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth y DU i Fil Gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion
tebyg er mwyn mynd i'r afael â chostau gofal yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
40 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2013/2014.
Yn
gresynu na chafodd Bil Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu argymhellion y
Comisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru, ei gynnwys yn y rhaglen
ddeddfwriaethol.
Yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r Bil Cymru drafft.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
18 |
0 |
58 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
24/05/2012 - Dadl ar Araith y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 15:27.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y
ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i
gyflawni twf yn yr economi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil
Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn
cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
10 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil
Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a
roddir, hyd at £5,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil
Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi
wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu
rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i hymrwymiad parhaus i:
a) lleihau’r diffyg
a thrwy hynny sicrhau’r cyfraddau llog isaf erioed yn y Deyrnas Unedig, sydd o
fudd i berchnogion tai ledled Cymru;
b) adfer
sefydlogrwydd economaidd, gan greu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu Bil Dyfarnwr
y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4992
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2012/2013.
Yn gresynu wrth y
ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i
gyflawni twf yn yr economi.
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Yn croesawu’r Bil
Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a
roddir, hyd at £5,000.
Yn croesawu’r Bil
Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi
wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Yn croesawu Bil
Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
5 |
13 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.