Penderfyniadau
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Trosedd a Llysoedd
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
01/10/2014 - Supplementary Legislative Consent Memorandum (Memorandum No-2) on the Criminal Justice and Courts Bill in respect of provisions relating to offence of ill-treatment or wilful neglect by care workers
Dechreuodd yr eitem am 16.05
NDM5540 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y
Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd sy'n ymwneud â throsedd esgeulustod
bwriadol neu gamdriniaeth gan ofalwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
09/07/2014 - Legislative Consent Motion on the Criminal Justice and Courts Bill
Dechreuodd
yr eitem am 17.42
NNDM5549 Carl Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad
i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion,
camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
16/01/2013 - Legislative Consent Memorandum on Crime and Courts Bill in relation to amendments to the Environmental Protection Act 1990
Dechreuodd yr eitem am 16.47
NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd
a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n
ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn
cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau
gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6
Tachwedd 2012 yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.