Penderfyniadau

The Control of Horses (Wales) Bill

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

23/10/2013 - Motion to approve the Financial Resolution in respect of the Control of Horses (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5339 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.


23/10/2013 - Debate on the General Principles of the Control of Horses (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na fu’r bil drwy broses pwyllgor Cyfnod 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.