Penderfyniadau

CLA312 - Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

23/10/2013 - The Domestic Fire Safety (Definition of Residence) (Wales) Order 2013

Dechreuodd yr eitem am 16.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5336 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

10

0

50

Derbyniwyd y cynnig.