Penderfyniadau

Ymchwiliad i Cyllid Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

19/06/2015 - Finance Wales: Further consideration of evidence

8.1 Trafododd y Pwyllgor y mater a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

 


17/07/2014 - Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Cyllid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.48

 

NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.