Penderfyniadau

Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

18/09/2014 - Debate on the Enterprise and Business Committee’s Report on its Inquiry into EU funding opportunities 2014-2020

Dechreuodd yr eitem am 15:08

NDM5563 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE ar gyfer 2014-2020, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.