Penderfyniadau
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
20/11/2014 - Motion to approve the Assembly Commission's Budget 2015/16
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5621 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16, fel y
pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod yn
cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15/11/2012 - Motion to approve the Assembly Commission's Budget 2013/14
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5090 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.