Penderfyniadau
Diweddaraf am Archwilio Allanol
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
30/07/2021 - Trafod y farn Archwilio Allanol (Adroddiad ISA 260) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21
ARAC (03-21) Papur 3 – Adroddiad ISA260
4.1
Croesawodd y Cadeirydd
Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey i'r cyfarfod.
4.2
Soniodd Archwilio
Cymru am y gefnogaeth wych a gafwyd gan Nia Morgan a'r tîm Cyllid a diolchodd i
bawb a gymerodd ran am eu holl ymdrechion yn yr ail flwyddyn o gwblhau'r
archwiliad o bell. Nododd Ann-Marie fod cwblhau'r cyfrifon mor gynnar yn
gyflawniad gwych gydag ychydig iawn o faterion yn codi. Ymddiheurodd Ann-Marie
am y dryswch ynghylch pwy fyddai'n llofnodi'r cyfrifon a chadarnhaodd y byddai
hi'n eu llofnodi ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru oherwydd ei gyflogaeth flaenorol
yn y Comisiwn.
4.3
Tynnodd sylw at un camddatganiad heb ei gywiro o £273,000
ar gyfer yr hyn yr oedd Archwilydd Cymru yn ei ystyried yn gam-ddosbarthu
gwariant cyfalaf. Cydnabu Ann-Marie fod hwn yn faes aneglur o ran cyfrifyddu
ond dywedodd tîm technegol Archwilydd Cymru ei fod yn cael ei gofnodi fel
cyfalaf yn hytrach na gwariant refeniw. Dywedodd fod hyn ymhell islaw trothwy
materoldeb ac nad oedd yn cael unrhyw effaith ar y farn archwilio.
4.4
Roedd Archwilydd Cymru
yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon.
4.5
Croesawodd Nia y cyfle
i godi ei phryderon gyda'r Pwyllgor ynglŷn â'r hyn yr oedd hi’n gredu oedd
y dull anghyson a gymerwyd gan Archwilydd Cymru ar y math hwn o wariant.
Tynnodd sylw at y ffaith bod gwariant mwy sylweddol ar welliannau i adeiladu
wedi'i nodi'n gywir yn y cyfrifon fel gwariant cyfalaf mewn blynyddoedd
blaenorol. Roedd wedi trafod y mater yn faith gyda'i thîm ac Archwilydd Cymru
ac roedd o'r farn bod hyn yn anghytundeb yn hytrach na chamgymeriad fel yr
awgrymwyd yn adroddiad ISA260.
4.6
Roedd Nia hefyd am
gofnodi ei diolch am ymdrech aruthrol aelodau ei thîm i sicrhau canlyniad mor
llwyddiannus ac amserol.
4.7
Diolchodd y Cadeirydd
i Nia ac Archwilio Cymru am y ffordd gwrtais a diplomatig yr oeddent wedi
mynegi eu gwahaniaeth barn a chydnabod y rhwystredigaeth ynghylch anghysondeb a
chanfod y mater yn hwyr, yn enwedig o ystyried ei werth isel. Anogodd y ddwy
ochr i beidio â gadael i'r mater hwn gael effaith andwyol ar eu perthynas dda
ac i gysylltu'n agos ynghylch y ffordd y caiff buddsoddiad yn yr ystâd ei drin
yn y cyfrifon yn y dyfodol. Gofynnodd y Cadeirydd am fanylion y cyngor a
ddarparwyd gan dîm technegol Archwilio Cymru i lywio'r driniaeth o'r math hwn o
wariant yn y dyfodol. Er ei fod yn nodi nad oedd hyn yn arfer safonol, cytunodd
Archwilio Cymru i rannu'r cyngor technegol gyda'r Comisiwn. Croesawodd y
Cadeirydd y farn archwilio ddiamod a chwblhau'r archwiliad yn gynnar, a oedd yn
gyflawniad rhagorol. Byddai'n croesawu adborth o'r sesiynau gwersi a ddysgwyd
yng nghyfarfod y Pwyllgor yn yr hydref gan gynnwys manylion unrhyw drafodaethau
yn y dyfodol.
4.8
Roedd y Cadeirydd yn
falch o glywed y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llofnodi'r cyfrifon y
flwyddyn nesaf ac y byddai'n trefnu i gyfarfod ag ef yn breifat dros yr haf.
Sicrhaodd Ann-Marie y Pwyllgor ei fod wedi cael gweld y cyfrifon yn llawn.
4.9
Camau gweithredu
·
Archwilio Cymru i
rannu cyngor gan y tîm technegol gyda Thîm Cyllid y Comisiwn.
·
Nia Morgan i roi
adborth i'r Pwyllgor ar drafodaeth gydag Archwilio Cymru ynghylch cyfrifo am wariant refeniw a
chyfalaf.
·
Y Cadeirydd i gwrdd â'r Archwilydd Cyffredinol i drafod y materion a godwyd
ymhellach.