P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wyrdroi’r penderfyniad i symud yr holl Feddygon CT2 o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn yr hydref heb ymgynghori â’r cyhoedd o flaen llaw. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu na fydd gwasanaethau meddygol aciwt yn cael eu darparu yn yr ysbyty, a bydd rhaid i gleifion deithio i Dreforys yn Abertawe neu i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gael gwasanethau o’r fath.  Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn ysbyty Menter Cyllid Preifat o’r radd flaenaf, ac mae trigolion yr ardal hon am i wasanaethau sydd mor hanfodol gael eu cadw yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Prif ddeisebydd:  Carolyn Edwards

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

 

Nifer y llofnodion:  193 o lofnodion.  Casglwyd dros 5000 o lofnodion gan ddeisebau cysylltiedig.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;