P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol
P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn galluogi dinasyddion Cymru i alw am
bleidleisiau ar faterion ar lefel Llywodraeth Leol, ac i bleidleisiau o’r fath
gael yr effaith o naill ai [1] galw penderfyniadau a wnaed gan gynghorau yn ôl
i’w hailystyried, neu [2] gwneud pleidleisiau â mwyafrif o fwy na dwy ran o
dair yn rhwymol yn ddemocrataidd.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae Plebeian Laboratories yn ymwybodol o nifer ddirifedi o
benderfyniadau a wneir ar lefel Llywodraeth Leol, sy’n effeithio’n negyddol ar
fywydau dinasyddion, ond nad oes ganddynt fawr ddim cyfle i effeithio arnynt yn
uniongyrchol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth uniongyrchol wedi
dod yn fwyfwy poblogaidd mewn llawer o wledydd ledled y byd fel ffordd o hybu
cyfranogiad dinasyddion a hawliau democrataidd. Go brin y byddai Aelodau’r
Cynulliad yn pleidleisio i wneud democratiaeth uniongyrchol yn ddeddf ar lefel
genedlaethol yng Nghymru, ond byddai rhywfaint o ddemocratiaeth uniongyrchol ar
lefel Llywodraeth Leol yn sicr o roi hwb i ddemocratiaeth Cymru..
Prif
ddeisebydd Plebeian
Laboratories
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 38
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014