P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/04/2018
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, yn sgil ei gasgliad
ei bod hi'n well mynd i'r afael â materion heb eu datrys drwy'r prosesau craffu
lleol sy'n mynd rhagddynt. Wrth wneud hynny, roedd Aelodau yn dymuno
diolch i'r deisebydd am ei amser a'i ddiwydrwydd drwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor
o'r mater hwn.
Geiriad y ddeiseb
Nes y bydd y Gweinidog Iechyd wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr
Athro Marcus Longley yn ei adroddiad ar safon y gwasanaeth iechyd yng nghefn
gwlad Cymru - adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweindog ei hun yn Ionawr 2014 - yna
rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddwyn perswâd ar Lywodraeth
Lafur Cymru i ohirio trafod Cynllun Busnes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr sy’n argymell israddio Ysbyty Coffa Ffestiniog i ddim byd mwy na
‘Canolfan Goffa’.
Prif
ddeisebydd: Geraint Vaughn Jones
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014
Nifer
y llofnodion: 2,754
Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi crynodeb o’i ystyriaeth (469 KB) o’r
ddeiseb (22 Ionawr 2018)
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014
Dogfennau