P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion
P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion
gan nad yw’n addas i’r diben.
Nid yw’r Cod Derbyn i Ysgolion
yn addas i’r diben oherwydd;
Mae’n esgus cefnogi
confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ond nid oes gofyn bod
ymgynghori â phlant wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’n
esgus cefnogi’r Ddeddf Cydraddoldeb, ond nid oes gofyn bod Asesiad o’r Effaith
ar Gydraddoldeb;
Nid yw’n ddigon penodol ac
felly mae hynny’n arwain at wahaniaethau wrth ei weithredu; mae rhai er gwell a
rhai er gwaeth;
Mae’r hawl i rieni a
chyrff llywodraethu apelio i Lywodraeth Cymru yn gyfyng iawn. Yn benodol, mae
cyrff llywodraethol a ystyrir yn ymgyngoreion statudol, ac eto sydd wedi eu
cyfyngu o ran yr amgylchiadau penodol iawn y mae modd iddynt apelio ynddynt;
Mae geiriad y Cod Derbyn i
Ysgolion yn amwys ac nid yw’n hawdd ei ddefnyddio i’r rhai y mae’n rhaid iddynt
wneud hynny;
Nid yw’r Cod Derbyn i
Ysgolion yn diffinio “rhesymol” yng nghyd-destun cyfnodau ymgynghori;
Oherwydd yr holl resymau
uchod, nid yw’r Cod Derbyn i Ysgolion yn briodol wrth ymdrin â newidiadau
sylweddol, fel newidiadau i dalgylchoedd.
Prif
ddeisebydd: Jane Chapman
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17
Mehefin 2014
Nifer
y llofnodion: 156
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/06/2014