Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Seilwaith
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Seilwaith
Mae'r
memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â darpariaethau ym Mil
Seilwaith y DU sy'n ceisio caniatáu i rai awdurdodau amgylcheddol gymryd camau
i ddileu neu reoli rhywogaethau estron goresgynnol ("RhEG") sy'n peri
bygythiadau difrifol i fioamrywiaeth, buddiannau amgylcheddol eraill neu
fuddiannau cymdeithasol neu economaidd.
Darperir lincs i bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ar y dudalen hon isod,
gweler 'Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol'.
Cefndir
Mae Bil Seilwaith Llywodraeth y DU ('y Bil') yn cael ei ystyried gan Senedd
y DU ar hyn o bryd.
Diben rhai adrannau o'r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu
datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ('y Cynulliad') yn ystyried cydsynio â hyn. Mae'r
Cynulliad yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol a
gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i'w chael yn
hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 Cynigion
Cydsyniad Deddfwriaethol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ('y
memorandwm') ar 18 Mehefin 2014 sy'n esbonio hyn yn fwy manwl.
Yn bennaf, mae'r memorandwm yn nodi bod y darpariaethau yn y Bil y gwneir cais
i gael cydsyniad ar eu cyfer wedi'u cynnwys o fewn Rhan 2, Cymal 16.
Mae Rhan 2, Cymal 16 yn mewnosod is-adran newydd 14(4A) i Ddeddf Bywyd Gwyllt a
Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981") sy'n darparu ar gyfer mesurau sy'n
ymwneud â chytundebau rheoli rhywogaethau a gorchmynion rheoli rhywogaethau
sydd i'w cynnwys mewn Atodlen 9A newydd i Ddeddf 1981.
Mae'r Atodlen 9A newydd yn bum rhan ac yn 26 o adrannau.
Diben y polisi
Mae'r memorandwm yn nodi diben y polisi yn fwy manwl. Ceir crynodeb byr yn y
blwch isod.
Crynodeb o ddiben y polisi Bydd Cymal 16, os caiff ei wneud yn gyfraith, yn
caniatáu i rai awdurdodau amgylcheddol gymryd camau i ddileu neu reoli
rhywogaethau estron goresgynnol ("RhEG") sy'n peri bygythiadau
difrifol i fioamrywiaeth, buddiannau amgylcheddol eraill neu fuddiannau
cymdeithasol neu economaidd. |
Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol
Mae copi o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org
Mae'r Bil Seilwaith ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html
Mae Hysbysiad Hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 Cynigion
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/qg07-0006.pdf
Gellir gweld y Rheolau Sefydlog yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-assembly-guidance.htm
(Mae Rheol Sefydlog 29 yn nodi'r broses ar gyfer ystyried memorandwm
cydsyniad deddfwriaethol).
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2014
Dogfennau