P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau
P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i fabwysiadu pob un o’r chwe phwynt yn y Siarter Gweithredu
dros Blant a Thadau yng Nghymru. 1. Rhaid i bob rhaglen a ariennir gan
Lywodraeth Cymru gofnodi rhyw’r rhieni/gofalwyr y mae’n gweithio gyda hwy. 2.
Gosod targedau CAMPUS i gynyddu cyfranogiad tadau a phob rhiant arall nad yw’n
byw gyda’i blant yng ngwasanaethau Llywodraeth Cymru. 3. Y Prif Weinidog i
wneud datganiad blynyddol ar bwysigrwydd tadau a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru
wedi’i wneud i’w helpu yn y 12 mis blaenorol. 4. Annog gwell gofal plant ar y
cyd er mwyn caniatáu i fwy o rieni (yn enwedig rhieni sengl) ymgymryd â
hyfforddiant neu raglenni cyflogaeth. 5. Cydnabod Dieithrwch Rhieni fel math o
gam-drin plant yn emosiynol. 6. Sefydlu gweithgor o dan y Rhwydwaith Cyfiawnder
Teuluol i Gymru i gydlynu gwell cydweithredu ar gyfer y sefydliadau hynny sydd
â marc help a chymorth i deuluoedd sydd wedi gwahanu (HCDG) yng Nghymru, sef marc
a ddyfernir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gwybodaeth
ychwanegol:
1.Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na ofynnir i
wasanaethau cymorth i deuluoedd gofnodi rhyw’r rhieni y maent yn gweithio gyda
hwy ar hyn o bryd.
2. Mae ein hymchwil gyda mentrau rhianta yng Nghymru yn
dangos mai rhwng 3% ac 11% ar gyfartaledd yw’r lefel ymgysylltu ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth sy’n ddynion.
3.Daw’r cynsail o’r UDA
http://www.whitehouse.gov/the-press-office/2013/06/14/weekly-address-celebrating-fathers-day-weekend.
4. Mewn sawl talaith yn yr UDA mae ofynnol i rieni nad
ydynt yn byw gyda’u plant a mam-guod a thad-cuod gael y cynnig cyntaf i ofalu
am y plant: http://ilfamilylaw.com/new-law-right-first-refusal-child-care/. Yn
Illinois mae ’budd pennaf y plentyn’ yn gyfystyr â ’threulio cymaint o amser â
phosibl gyda’r ddau riant’. 5. Gwrthododd y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluoedd i
Gymru ein cais i gydnabod Dieithrwch Rhieni fel math o gam-drin plant yn
emosiynol ym mis Mai 2014.
6.Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau ei
chefnogaeth i’r cynnig hwn ac mae Albert Heaney, Cadeirydd y Rhwydwaith
Cyfiawnder i Deuluoedd, hefyd wedi nodi ei gefnogaeth.
Prif
ddeisebydd FNF Both Parents
Matter Cymru
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 653
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014