P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn
P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Apel Cyngor Cymuned Cilmeri,
ar ôl casglu 205 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Oherwydd pwysigrwydd cenedlaethol Cofeb y Tywysog
Llywelyn, mae cymuned Cilmeri yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i:
• Godi arwyddion brown at y gofeb â delwedd o faes brwydr
arnynt ar yr A483 ar y ddwy brif ffordd sy’n mynd i mewn i’r pentref er mwyn
dynodi arwyddocâd hanesyddol ein pentref;
• Gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys,
Cyngor Cymuned Cilmeri a Cadw i helpu â gwaith cynnal a chadw’r gofeb enwog, er
mwyn i ymwelwyr allu mwynhau ein safle sydd o arwyddocâd cenedlaethol a
hanesyddol mewn amgylchedd diogel a phriodol;
• Helpu i ddod o hyd i adnoddau i weithredu, gam wrth
gam, Cynllun Dehongli Lloyd Brown (Ionawr 2013) a gomisiynwyd gan Cadw.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae’r cynllun dehongli yn rhoi sylw i’r ffaith mai
Llywelyn oedd Tywysog brodorol olaf Cymru i farw ar faes y gad, gan nodi diwedd
llinach bwerus Gwynedd, a oedd yn bwysig wrth feithrin ymdeimlad o
genedligrwydd a hunaniaeth Gymreig.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a
gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn ysgrifennu at y
deisebwyr i rannu cynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo asedau i'r gofeb; ac o
ganlyniad chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 23/09/2014.
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014