Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar iechyd y cyhoedd

Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar iechyd y cyhoedd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 2 Ebrill 2014 i geisio barn ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i:

  • wella iechyd oes drwy gynigion i fynd i'r afael â materion iechyd cyhoeddus pwysig o ran tybaco, camddefnyddio alcohol, a gordewdra;
  • datblygu asedau cymunedol ar gyfer iechyd drwy gynigion i gryfhau rôl Byrddau Iechyd Lleol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd y cyhoedd, ac i wella darpariaeth a mynediad o ran toiledau cyhoeddus, a
  • gwella'r rheoleiddio ar gyfer rhai mathau o driniaeth, megis tyllu cosmetig a thatŵio.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 24 Mehefin 2014. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn friffio ffeithiol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 8 Hydref 2015 er mwyn cael trosolwg o Bapur Gwyn Bil Iechyd y Cyhoedd, strategaeth yr ymgynghoriad, a'r amserlen ar gyfer y camau nesaf.   

 

Mae'r holl wybodaeth am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ar gael ar wefan y Bil.

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/10/2014