Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am
gefndir y Bil, ac ymgynghoriad y Pwyllgor, ar flog
y Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth am y Bil
Prif
ddibenion y Bil yw:
- Cryfhau'r dull o gynllunio a arweinir gan
gynlluniau. Mae'r Bil yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd i
Weinidogion Cymru allu paratoi cynllun defnydd tir cenedlaethol, a elwir
yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru. Bydd y fframwaith yn nodi
blaenoriaethau defnydd tir cenedlaethol a gofynion isadeiledd ar gyfer
Cymru.
- Gwneud darpariaeth ar gyfer llunio
Cynlluniau Datblygu Strategol, i fynd i'r afael â materion traws-ffiniol
nad ydynt yn rhai lleol, fel cyflenwad tai ac ardaloedd ar gyfer twf
economaidd ac adfywio.
- Gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori cyn
ymgeisio, ac i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu
gwasanaethau cyn ymgeisio.
- Gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru
dderbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau o bwys cenedlaethol. Bydd
ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio hefyd yn gallu gwneud cais i Weinidogion
Cymru am ganiatâd cynllunio lle ystyrir bod awdurdod cynllunio lleol
perfformio'n wael.
- Diwygio'r system o reoli datblygu i
symleiddio gweithdrefnau, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau yn
brydlon, gan roi sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau.
- Gwella gweithdrefnau gorfodi ac apêl. Gwneir
newidiadau hefyd mewn perthynas ag adennill costau ar gyfer partïon sy'n
gysylltiedig ag achosion cynllunio.
- Gwneud newidiadau mewn perthynas â
cheisiadau i gofrestru meysydd tref a phentref.
Cyfnod presennol
Daeth
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 6
Gorffenaf 2015 (gwefan allanol).
A’r Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, mae Llywodraeth
Cymru wedi darparu memorandwm
esboniadol diwygiedig.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl
a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt
Mae'r bil wedi cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Clerc: Alun Davidson
Rhif ffôn: 0300 200 6565
E-bost: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2014
Dogfennau
- Datganiadau o Fwriad Polisi PDF 367 KB
- Atodlen Keeling PDF 455 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 22 Ionawr 2015 PDF 78 KB
- Llythyr gan Gaderiydd y Pwyllgor Cylliad at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynliadwyedd - 22 Ionawr 2015 PDF 83 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 21 Ionawr 2015 PDF 379 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 9 Ionawr 2015 PDF 195 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 7 Ionawr 2015 PDF 359 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 10 Rhagfyr 2014 PDF 349 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Chwefror PDF 116 KB
- Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 11 Chwefror 2015 (Saesneg yn unig) PDF 119 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 26 Chwefror 2015 PDF 334 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 3 Mawrth PDF 66 KB
- Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 3 Mawrth (Saesneg yn unig) PDF 56 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 5 Mawrth 2015 PDF 75 KB
- Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 5 Mawrth 2015 (Saesneg yn unig) PDF 90 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 9 Mawrth 2015 PDF 53 KB
- Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 9 Mawrth 2015 (Saesneg yn unig) PDF 45 KB
- Hysbysiad ynghylch gwelliannau: 11 Mawrth 2015 PDF 244 KB
- Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli: 18 Mawrth 2015 PDF 327 KB
- Grwpio Gwelliannau: 18 Mawrth 2015 PDF 65 KB
- Bil Cynllunio (Cymru) - Fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 PDF 389 KB
- Y Gwasanaeth Ymchwil: Crynodeb o'r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 PDF 178 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Ebrill 2015 PDF 111 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Ebrill 2015* PDF 59 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 17 Ebrill 2015* PDF 53 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 20 Ebrill 2015 PDF 52 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Ebrill 2015 PDF 100 KB
- Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 22 Ebrill 2015 (Saesneg yn unig) PDF 604 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 24 Ebrill 2015 PDF 82 KB
- Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 24 Ebrill 2015 (Saesneg yn unig) PDF 61 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 27 Ebrill 2015 PDF 132 KB
- Rhestr o welliannau wedi'u didoli: 5 Mai 2015 PDF 252 KB
- Grwpio gwelliannau: 5 Mai 2015 PDF 62 KB
- Bil Cynllunio (Cymru) - Fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 PDF 398 KB
- Bil Cynllunio (Cymru) - Fel y’i pasiwyd PDF 398 KB
- Bil Cynllunio (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML) XML 405 KB
Ymgynghoriadau
- Egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) (Wedi ei gyflawni)