P-04-604 Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.

P-04-604 Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.

Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol Powys ailsefydlu ar unwaith Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes, a'r Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig.

Mae diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes ym mis Ebrill 2011 a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig statudol ym mis Mehefin 2013 yn amddifadu cleifion rhag cyfrannu, fel y diffinnir yn y 'Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru' a'r 'Canllawiau ar Gynnwys Defnyddwyr a Gofalwyr sy'n defnyddio Gwasanaethau Oedolion y GIG '.  Mae diddymu’r Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig yn uniongyrchol groes i'r cyfarwyddiadau a nodir mewn gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Gadeirydd pob Bwrdd Iechyd Lleol ac oddi wrth Brif Weithredwr GIG Cymru at Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol ym mis Mehefin 2010. Mae'r ohebiaeth yn datgan: -

....."Each DPDG should take responsibility for leading, managing and reporting to the LHB Board and to the Chief Executive of NHS on progress with the delivery of the NSF." ......and............."The DPDG will need to ensure effective engagement with service users and is an integral part of the LHB structures underpinning the implementation of the CCM (Chronic Conditions Management) policy agenda." (Mae cynrychiolwyr cleifion ar bob un o’r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig.)

 

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Ym mis Mehefin 2013 lluniodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad adroddiad ar ganlyniad yr 'Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol'. Daethant i'r casgliad canlynol yn Argymhelliad 5: -

"Rydym yn argymell y dylai'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes newydd sicrhau bod perthynas Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes lleol â byrddau iechyd yn cael ei ffurfioli. Dylai Byrddau Iechyd ddangos sut y maent yn ystyried argymhellion y Grwpiau ac yn ymgysylltu'n llawn â'u gwaith. Dylid rhoi trefniadau ar waith i fabwysiadu dull cenedlaethol ar gyfer y Grwpiau, i gynnwys cylch gorchwyl cenedlaethol ar gyfer sut y maent yn gweithredu a gofyniad iddynt gyfarfod â'i gilydd i rannu arferion gorau."

Ym mis Hydref 2013 lansiwyd 'Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes' gan Lywodraeth Cymru. Ym Mhennod 10: "CYNLLUNIAU LLEOL - GWEITHREDU'n LLEOL" nodir fel a ganlyn: -

...."Mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes a’r Cynllun Cyflawni hwn ar gyfer Diabetes. Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn cynorthwyo eu Grwpiau Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes i adolygu, diweddaru a chyhoeddi cynlluniau cyflawni lleol manwl ar gyfer diabetes. Bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn cynorthwyo ac yn galluogi’r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes i weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes, adrodd ynghylch cynnydd, cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf bob chwe mis ar eu gwefannau a chyfrannu at yr adroddiad blynyddol i Gymru gyfan a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru."

 Yn syml, nid oes bellach fodd i gleifion diabetes ym Mhowys gyfrannu na chael gwybodaeth sylfaenol am gynllunio neu ddarparu gwasanaethau. Rydym wedi'n difreinio ac wedi'n hamddifadu o nod datganedig Llywodraeth Cymru: -

 

. "I sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG ... yn cymryd rhan wirioneddol ac adeiladol ym mhob agwedd ar y gwasanaeth."

Prif ddeisebydd:  Robert V Wright

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion:   40 llofnod a’r lein

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2014