Gofynnwn
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod ysgolion yn rhydd i ddefnyddio eu
pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion)
(Cymru) 2010 heb ymyrraeth gan gyrff fel awdurdodau lleol a chonsortia addysg
rhanbarthol, a heb fygythiad o gael eu cosbi drwy'r prosesau arolygu ysgolion,
dyfarniadau perfformiad a bandio.
Mae'r
awdurdodau lleol yng Nghymru a'u consortia yn argymell na ddylai ysgolion
ddefnyddio eu pwerau statudol o dan y ddeddfwriaeth uchod, gan adael mwy o deuluoedd
yn agored i'r bygythiad o hysbysiadau cosb o dan Reoliadau Addysg (Hysbysiadau
Cosb) (Cymru) 2013 nag a fyddai wedi bod fel arall. Gwneir yr argymhellion hyn
ar y sail eu bod yn gallu gwella cyrhaeddiad er gwaethaf y diffyg tystiolaeth
bod absenoldeb o'r math a ganiateir o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg
(Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn arwain at gyrhaeddiad gwaeth.
Ar hyn o
bryd gellir cosbi ysgolion yng Nghymru trwy'r prosesau arolygu, dyfarniadau
perfformiad a bandio ysgolion am awdurdodi absenoldebau cyfreithlon fel salwch,
gwyliau teuluol neu ddigwyddiadau ac achosion eraill sy'n galluogi teuluoedd i
gymryd rhan lawn mewn bywyd teuluol preifat arferol.
Mae'r
argymhellion a'r prosesau hyn yn gogwyddo ysgolion yn erbyn awdurdodi absenoldeb
cyfreithlon, ac yn gwneud ysgolion yn amharod i arfer eu pwerau statudol o dan
reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010. Gall hyn
niweidio'r berthynas rhwng y cartref a'r ysgol a lles plant. Lle bydd teulu yn
anghytuno â'r penderfyniad i wrthod awdurdodi absenoldeb ar sail cydraddoldeb,
hawliau dynol neu les plant does dim llwybr apêl annibynnol. Lle mae teulu yn
anwybyddu'r penderfyniad i wrthod awdurdodi absenoldeb gall hynny arwain at
hysbysiad cosb a throseddoli posibl. Ceir effaith economaidd ar y diwydiant
twristiaeth a hamdden yng Nghymru sy'n darparu cyflogaeth ac incwm i lawer o'n
teuluoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae
Rheoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn rhoi pŵer
disgresiynol i ysgolion i awdurdodi hyd at 10 diwrnod o absenoldeb yn ystod y
flwyddyn ysgol ar gyfer gwyliau teuluol a mwy na 10 diwrnod o absenoldeb mewn
amgylchiadau eithriadol.
Cynghorir
ysgolion yn erbyn defnyddio'r pŵer hwn gan eu hawdurdodau lleol. Maent yn
teimlo dan bwysau i wella ffigurau presenoldeb ysgolion gan Estyn, arolygiaeth
addysg a hyfforddiant Cymru, a all eu
cosbi os yw presenoldeb yn is na lefel benodol.
Mae'r
ymgyrch i wella presenoldeb yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd yn gwella cyrhaeddiad
addysgol. Mae hyn yn gor-symleiddio mater cymhleth iawn. Mae presenoldeb a
chyrhaeddiad yn gysylltiedig ond ni phrofwyd bod cysylltiad achosol. Mae
ymchwil yn dangos nad yw absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn effeithio ar
gyrhaeddiad ar lefel ysgol gynradd, a bod rhywfaint o absenoldeb yn annhebygol
o gael unrhyw effaith ar lefel ysgol uwchradd. ("Proffil o Absenoldeb
Disgyblion, 2011, DfE").
Gall
penderfyniad ysgol i wrthod awdurdodi absenoldeb a ganiateir o dan y gyfraith
niweidio o ddifrif y berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, yn enwedig os bydd y
teulu yn credu bod yr absenoldeb yn bwysig i les eu plentyn, ac yn cymryd eu
plentyn o'r ysgol beth bynnag. Gall y teulu gael hysbysiad cosb (dirwy) neu
gael eu troseddoli.
Mae
llawer o resymau dilys pam bod plant a theuluoedd angen yr hyblygrwydd i fod yn
absennol o'r ysgol yn ystod amser tymor.
Mae hynny'n cynnwys anhawster i gael gwyliau blynyddol yn ystod
gwyliau'r ysgol, digwyddiadau teuluol pwysig, yn byw'n bell o rieni dibreswyl,
neiniau a theidiau, a theulu estynedig. Mae teuluoedd sy'n cael eu cyflogi yn y
diwydiant twristiaeth a hamdden yng Nghymru wedi teimlo effaith economaidd
sylweddol o'r gwaharddiad ar wyliau amser tymor yn Lloegr eleni. Nododd
Adroddiad Plentyndod Da 2014 bod yr ysgol yn ddim ond un o'r deg agwedd ar
fywyd sy'n cael y dylanwad mwyaf ar les plant. Y lleill oedd y teulu, y
cartref, sefyllfa ariannol, ffrindiau, iechyd a dewis.
Prif
ddeisebydd: Pembs
Parents Want a Say/Rhieni Pembs eisiau cael dweud
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 812
llofnod a’r lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/10/2014