Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru
Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru
O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd angen sefydlu trefniadau i gasglu a
rheoli’r ddwy dreth newydd yng Nghymru. Penderfynodd Lywodraeth Cymru gyflwyno
deddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi’n gyntaf. Cyflwynwyd bil yn ymdrin â’r
trefniadau hyn, y Bil Casglu a
Rheoli Trethi (Cymru) ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn ystod haf 2015, a
daeth yn gyfraith yng Nghymru yn Ebrill 2016.
Wrth baratoi ar gyfer y cyfrifoldebau newydd hyn, cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru Bapur Gwyn, sef Casglu a rheoli trethi
datganoledig yng Nghymru. Nod y Papur Gwyn oedd ceisio
barn am y camau y gellid eu cymryd i annog pobl i gydymffurfio â’r trefniadau
ac i fynd i’r afael â’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid
ymchwiliad i gasglu trethi datganoledig.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/03/2015
Dogfennau
- Adroddiad - Mai 2015
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Gorffennaf 2015 PDF 293 KB
- Llythyr gan Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth – 30 Mawrth 2015 (Saesneg yn Unig) PDF 93 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth – 24 Mawrth 2015 PDF 112 KB
- Manyleb Swydd Cynghorydd Arbenigol PDF 32 KB Gweld fel HTML (5) 18 KB
Ymgynghoriadau
- Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)