Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau o drechu tlodi yn y gymuned

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau o drechu tlodi yn y gymuned

Cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i dlodi yng Nghymru. Rhannwyd yr ymchwiliad yn bedair elfen, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar un mater penodol. Roedd pob elfen yn annibynnol, gyda chylch gorchwyl penodol. Gyda'i gilydd, fodd bynnag, roedd yr elfennau hyn yn creu un darn o waith yn ymwneud â'r maes hwn.

Dulliau o drechu tlodi yn y gymuned

 

Y cylch gorchwyl oedd trafod:

  • cysondeb mentrau gwrthdlodi mewn gwahanol ardaloedd;
  • pa mor effeithiol yw rhaglenni gwrthdlodi sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol fel Cymunedau yn Gyntaf;
  • hynt yr argymhellion a wnaed gan gyn Bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn ei adroddiad ‘Tlodi ac amddifadedd yn y Gymru wledig’ yn 2008.

 

Tystiolaeth

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, ac yna ysgrifennodd at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gofyn iddi fynd i’r afael â nifer o bwyntiau a godwyd yn y dystiolaeth honno. Cyhoeddwyd ei hymateb.

 

Roedd y Gweinidog yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Ionawr 2016 i drafod y dystiolaeth a'i hymateb yn fwy manwl.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau