Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru
Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad
Llywodraeth Leol Rheoli Effaith
Diwygiadau Lles ar Denantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru ym mis Ionawr
2015.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad a oedd yn ystyried sut y mae’r newidiadau i
Fudd-dal Tai a gyflwynwyd gan raglen diwygio lles Llywodraeth y DU yn effeithio
ar awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru, a sut y maent yn ymdrin
â’r heriau y maent yn eu hwynebu. Roedd Deddf Diwygio Lles 2012 yn dynodi newid
mawr i’r ffordd y caiff budd-daliadau eu gweinyddu a’u dosbarthu a chaiff
effaith sylweddol ar lawer o ddinasyddion. Ym mis Ebrill 2011, dechreuodd
Llywodraeth y DU ar raglen ddiwygio a fydd yn arwain at gyflwyno’r Credyd
Cynhwysol fesul cam rhwng mis Hydref 2013 a 2017. Un o brif nodweddion
cynlluniau Llywodraeth y DU yw’r newidiadau i Fudd-dal Tai, i geisio lleihau
gwariant blynyddol o oddeutu £2.3 biliwn. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y
bydd miliynau o aelwydydd ym Mhrydain Fawr yn cael llai o fudd-daliadau, gan
olygu y bydd yn rhaid iddynt wneud dewisiadau anodd am y ffordd y maent yn
defnyddio ac yn rheoli eu harian o ddydd i ddydd. Dros y blynyddoedd diwethaf,
mae nifer y bobl sy’n hawlio Budd-dal Tai ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu’n
sylweddol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/03/2015
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gorffennaf 2015 (PDF 565MB)
- Ymateb y Llwodraeth - Awst 2015 (PDF 366KB) PDF 367 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - 3 Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig) PDF 703 KB
- Llythyr gan Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau - 18 Mehefin 2015 (Saesneg yn unig)
- Gwybodaeth Ychwanegol gan Cartrefi Cymunedol Cymru - Mehefin 2015 (Saesneg yn Unig) PDF 154 KB Gweld fel HTML (5) 377 KB
- Gwybodaeth Ychwanegol gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Mehefin 2015 (Saesneg yn Unig) PDF 66 KB Gweld fel HTML (6) 14 KB
- Gwybodaeth Ychwanegol gan Tai Wales & West - Mai 2015 (Saesneg yn unig)